Peel: Murray yn 'gwireddu breuddwyd ei fam' drwy chwarae i Gymru
Mae prif hyfforddwr Y Scarlets, Dwayne Peel yn “falch iawn” fod yr asgellwr Blair Murray wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer cyfres yr hydref.
Er i Murray gael ei eni a’i fagu yn Seland Newydd, mae’n gymwys i chwarae dros Gymru gan fod ei fam yn wreiddiol o Donyrefail.
Dywedodd Peel wrth adran chwaraeon BBC Cymru fod mam Murray "yn llawn dagrau" ar ôl clywed bod ei mab wedi ei gynnwys yn y garfan.
Fe ymunodd Murray â’r Scarlets o’r Crusaders yn Seland Newydd yn ystod yr haf, ac mae wedi creu argraff yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig y tymor yma.
Mae'r asgellwr ifanc yn un o ddau chwaraewr sydd eto i ennill cap rhyngwladol i gael eu cynnwys yn y garfan.
Bydd Cymru yn wynebu Fiji, Awstralia a De Affrica yng Nghaerdydd fis nesaf.