Cyfres yr Hydref: Dau enw newydd yng ngharfan Cymru

Blair MurrayFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Blair Murray yn un o ddau chwaraewr sydd eto i ennill cap rhyngwladol sydd wedi eu cynnwys yn y garfan

  • Cyhoeddwyd

Mae dau chwaraewr sydd eto i ennill cap rhyngwladol wedi eu cynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer cyfres yr hydref.

Mae clo Caerloyw, Freddie Thomas wedi cynrychioli timau ieuenctid Lloegr yn y gorffennol ond mae'n gymwys i gynrychioli Cymru trwy ei nain a'i daid.

Yn ogystal, mae asgellwr y Scarlets - Blair Murray - wedi ei gynnwys am y tro cyntaf.

Mae Warren Gatland wedi dewis carfan o 35 ar gyfer y gemau yn erbyn Fiji, Awstralia a De Affrica yng Nghaerdydd fis nesaf.

Dewi Lake sydd wedi ei ddewis fel capten er i Jac Morgan ddychwelyd i'r garfan ar ôl colli'r daith i Awstralia oherwydd anaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Freddie Thomas wedi chwarae i dimau dan-18 a dan-20 Lloegr

Ar ôl colli eu naw gêm brawf ddiwethaf, mae cryn bwysau ar Gatland i sicrhau fod canlyniadau yn gwella - ond mynnodd na fyddai'r ansicrwydd am ei ddyfodol yn cael effaith ar y garfan y byddai'n ei dewis.

Yr unig gêm i Gymru ei hennill eleni yw'r gêm gyfeillgar yn erbyn Quensland Reds yn ystod eu taith i Awstralia.

Mae sawl wyneb cyfarwydd wedi cael eu gadael allan o'r garfan oherwydd anafiadau.

Fe fydd asgellwr ac wythwr Caerdydd, Josh Adams a Talupe Falatau, yn methu'r gyfres, tra bod clo Caerwysg Dafydd Jenkins a bachwr y Dreigiau Elliot Lee hefyd yn absennol.

Doedd mewnwr y Scarlets, Gareth Davies ddim ar gael i Gatland chwaith wedi iddo gyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r maswr Gareth Anscombe ymhlith y chwaraewyr sy'n dychwelyd i'r garfan

Ond mae Adam Beard, Ryan Elias, Will Rowlands, Henry Thomas a Tomos Williams yn dychwelyd ar ôl methu'r gemau prawf dros yr haf.

Mae'r wythwr Aaron Wainwright wedi ei gynnwys yn y 35 er nad yw wedi chwarae gêm i'w glwb y tymor hwn yn sgil anafiadau.

Roedd Rhodri Williams yn enw annisgwyl i nifer, gyda mewnwr 31 oed y Dreigiau wedi ennill ei gap diwethaf dros 10 mlynedd yn ôl.

Gareth Anscombe, Max Llewellyn, Tom Rogers a Nicky Smith yw'r chwaraewyr eraill sydd wedi eu galw yn ôl i'r garfan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Warren Gatland yn cydnabod fod 2024 wedi bod yn flwyddyn "heriol" i Gymru

Cyn cyhoeddi'r garfan, dywedodd Gatland ei bod hi'n bwysig fod Cymru yn dangos eu bod yn datblygu yn ystod cyfres yr hydref.

"Mae hi wedi bod yn flwyddyn heriol ofnadwy, a fi fyddai'r cyntaf i gydnabod hynny, ond dwi'n edrych ymlaen at yr heriau sydd o'n blaenau," meddai.

"Dwi'n addo y byddwn ni'n gweithio'n ofnadwy o galed fel grŵp, a'r gobaith yw y bydd y garfan yn dangos rhywfaint o ddatblygiad yn ystod ymgyrch yr hydref. Mae hynny'n bwysig.

"Fel grŵp hyfforddi ry'n ni wedi gweld sawl chwaraewr ifanc arbennig allai chwarae rhan allweddol yn nyfodol rygbi Cymru.

"Ry'n ni wedi dewis canolbwyntio ar chwaraewyr ifanc, a'r bwriad nawr yw treulio mwy o amser gyda'r chwaraewyr hynny a'u datblygu."

Fe fydd gêm gyntaf Cymru fel rhan o Gyfres yr Hydref yn erbyn Fiji yn Stadiwm Principality ddydd Sul 10 Tachwedd.

Ddydd Sul 17 Tachwedd fe fydd Cymru'n croesawu Awstralia i'r brifddinas, cyn herio pencampwyr y byd, De Affrica, ddydd Sadwrn 23 Tachwedd.

Dadansoddiad

Cennydd Davies, Prif sylwebydd rygbi BBC Cymru

Nid am y tro cyntaf, mae Warren Gatland wedi cynnwys chwaraewyr yn y garfan na fyddai wedi bod yn gyfarwydd, mae’n siŵr, i nifer o newyddiadurwyr a gwybodusion.

Mi fydd sawl un nawr yn ceisio pori drwy unrhyw wybodaeth am Freddie Thomas a Blair Murray.

Ac eithrio hynny dyw’r garfan ddim yn annhebyg i'r un a deithiodd i Awstralia yn yr haf.

Mae 'na gyfle i Max Llewellyn a Nicky Smith eto gyda’r ddau wedi bod yn creu argraff yn Uwch Gynghrair Lloegr, ac yn yr un modd Tom Rogers dros y Scarlets.

Dyw presenoldeb Gareth Anscombe - sydd bellach yn chware yng Nghaerloyw - ddim yn syndod o ystyried y diffyg opsiynau yn safle’r maswr.

Canolbwyntio ar ddatblygu ar gyfer y dyfodol yw’r neges o hyd gan y prif hyfforddwr, sy'n mynnu na fydd yn gwyro o’r cynllun hwnnw.

Geiriau dewr a dealladwy, ond y gwir plaen yw bod yna gwestiynau teg yn cael eu gofyn ynglŷn â thrywydd a chyfeiriad y garfan, ac mae Warren Gatland yn gwybod bod yn rhaid i’r rhediad siomedig yma ddod i ben neu bydd y cwestiynu a’r beirniadu ond yn cryfhau.

Y garfan yn llawn

Blaenwyr: Keiron Assiratti, Adam Beard, James Botham, Ben Carter, Ryan Elias, Archie Griffin, Dewi Lake (capten), Evan Lloyd, Kemsley Mathias, Jac Morgan, Taine Plumtree, Tommy Reffell, Will Rowlands, Nicky Smith, Gareth Thomas, Freddie Thomas, Henry Thomas, Christ Tshiunza, Aaron Wainwright.

Cefnwyr: Ellis Bevan, Tomos Williams, Rhodri Williams, Gareth Anscombe, Sam Costelow, Ben Thomas, Eddie James, Max Llewellyn, Nick Tompkins, Owen Watkin, Mason Grady, Rio Dyer, Josh Hathaway, Blair Murray, Tom Rogers, Cameron Winnett.