Adroddiad newydd yn dangos fod y 'celfyddydau yn werth am arian'
Bydd sector proffesiynol y celfyddydau yn "diflannu" o fewn degawd os na chaiff ei ariannu'n iawn, yn ôl prif weithredwr Cyngor y Celfyddydau.
Dywedodd Dafydd Rhys y dylai ariannu'r celfyddydau fod yn statudol, fel bod dim modd i awdurdodau lleol ddewis torri yn y maes.
Daw'r rhybudd wrth i'r Cyngor gyhoeddi adroddiad ar effaith economaidd y celfyddydau yng Nghymru.
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru na ddylai'r heriau ariannol effeithio ar uchelgais hirdymor y llywodraeth.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Iau, dywedodd Dafydd Rhys: "Mae 'na ryw ddiwylliant lle mae pobl yn meddwl 'mae'n neis cael y celfyddydau ond ydi e'n greiddiol' ac mae'r adroddiad yma yn ein helpu ni gyda'r dadleuon hynny."
Aeth ymlaen i ddweud fod yr adroddiad yn dangos fod y "celfyddydau yn werth am arian."