'Sector sy'n cyflogi 40,000 o bobl i ddiflannu mewn degawd heb ariannu'
- Cyhoeddwyd
Bydd sector proffesiynol y celfyddydau yn "diflannu" o fewn degawd os na chaiff ei ariannu'n iawn, yn ôl prif weithredwr Cyngor y Celfyddydau.
Dywedodd Dafydd Rhys y dylai ariannu'r celfyddydau fod yn statudol, fel bod dim modd i awdurdodau lleol ddewis torri yn y maes.
Daw'r rhybudd wrth i'r Cyngor gyhoeddi adroddiad ar effaith economaidd y celfyddydau yng Nghymru.
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru na ddylai'r heriau ariannol effeithio ar uchelgais hirdymor y llywodraeth.
- Cyhoeddwyd26 Awst
- Cyhoeddwyd27 Medi 2023
- Cyhoeddwyd18 Medi
Gyda'r llywodraeth yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft fis nesaf, mae Cyngor y Celfyddydau yn galw ar wleidyddion i ddwys ystyried yr adroddiad.
Mae'n dweud am bob £1 sy'n cael ei fuddsoddi yn y diwydiant, bod £2.51 yn cael ei roi nôl mewn i'r economi.
"Ers 2010 mewn termau real ry'n ni wedi cael toriad o 40%," meddai Dafydd Rhys.
"Os ydy'r darlun yna'n parhau... fydd yna ddim sector proffesiynol yn bodoli mewn 10 mlynedd.
"Felly mae'n bwysig ein bod ni'n defnyddio ac yn arfogi'n hunain gyda adroddiad o'r math yma er mwyn ceisio dylanwadu ar y penderfyniadau."
Eglurodd bod £1.6bn o drosiant yn y sector, sy'n cyflogi 40,000 o weithwyr.
"Mae'n sector broffesiynol sy'n cyfrannu'n helaeth... mae 'na fuddion economaidd helaeth."
Fis Mehefin, datgelodd ymchwil ar ran undeb celfyddydol Equity bod gwariant ar y celfyddydau yng Nghymru wedi gostwng 30% mewn termau real ers 2017.
Yn yr un amser yn Lloegr, roedd y gostyngiad yn 11%, 16% yng Ngogledd Iwerddon a chynnydd o 2% yn yr Alban.
Dylai Llywodraeth Cymru warchod ariannu'r celfyddydau yn gyfreithiol yn ôl Dafydd Rhys, fel na all awdurdodau lleol dorri gwariant.
"Partner pwysig iawn yw'r awdurdodau lleol. Mae'r awdurdodau lleol yn mynd trwy sefyllfa anodd iawn... yn gorfod gwneud arbedion difrifol.
"Felly yn naturiol pan maen nhw'n gorfod gwneud arbedion maen nhw'n mynd i edrych ar bethe sydd ddim yn statudol."
Mae'n rhagweld mai gweithgarwch celfyddydol fydd yn cael ei fwrw gyntaf dan y fath amgylchiadau.
Fis Mai llofnododd enwogion fel Syr Bryn Terfel, Michael Sheen a Katherine Jenkins lythyr agored yn beirniadu bwriad Cyngor Celfyddydau Lloegr a Chyngor y Celfyddydau yng Nghymru i dorri cyllid i'r opera genedlaethol - 35% yn llai o gyllid gan Loegr, a 11.8% gan Gymru.
Mae'r soprano Elizabeth Atherton yn ymgyrchu yn erbyn toriadau i'r celfyddydau.
Does ganddi "ddim hyder" bod Llywodraeth Cymru na'r DU yn cymryd y sefyllfa o ddifrif.
"Mae morâl ar ei isaf, gyda gyrfaoedd yn chwalu a sefydliadau'n straffaglu i gadw fynd," meddai.
"Mae artistiaid yn gynyddol adael y diwydiant yn llwyr a sefydliadau celfyddydol yn gostwng eu hallbwn wrth iddyn nhw frwydro i oroesi.
"Heb fuddsoddiad gwirioneddol gan lywodraeth, yn fuan fydd dim ar ôl i genedlaethau'r dyfodol."
'Effaith anferth'
Dywedodd llefarydd ar ran Creu Cymru, sy'n hyrwyddo'r celfyddydau yng Nghymru bod rhaid gweithredu "ar frys" i atal cau sefydliadau a'r dirywiad ym maes y celfyddydau.
"Byddai dim ond cynnydd bychan yng nghyllid y celfyddydau yn cael effaith anferth, gan greu mwy na 1,000 o swyddi newydd ar draws Cymru," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y celfyddydau yn "hanfodol" i Gymru yn economaidd ac yn gymdeithasol.
"Rydym yn benderfynol na ddylai'r heriau ariannol sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd gyfyngu ar ein huchelgeisiau hirdymor ar gyfer y sector.
"Yn ddiweddar darparwyd cyllid ychwanegol i liniaru rhai o'r pwysau cyllidebol rydym ni’n gwybod sy’n wynebu'r sector a byddwn yn cyhoeddi penderfyniadau gwario hir dymor wrth i ni ddatblygu ein Cyllideb Ddrafft dros yr wythnosau i ddod."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydym yn benderfynol o sicrhau nad yw'r celfyddydau a diwylliant bellach yn eiddo i ychydig breintiedig ac rydym yn ystyried yn ofalus sut rydym yn ariannu sefydliadau celfyddydol ledled y wlad i ddatgloi mwy o gyfleoedd creadigol."