Trafod canser yn 'cynnig gobaith' i Mari Grug
Mae trafod canser yn agored wedi rhoi "egni" a "gobaith" i'r cyflwynydd Mari Grug, wrth iddi gyhoeddi ei bod wedi cael canlyniadau positif i brofion diweddar.
Blwyddyn ers ei diagnosis, mae'r fam 39 oed o Fynachlogddu wedi rhannu'r newyddion gyda Cymru Fyw fod ei dau sgan diwethaf ar yr afu yn glir o ganser.
Cafodd diagnosis o ganser y fron ac yna triniaeth ar gyfer canser metastatic wedi i'r canser ledu i'r nodau lymff a'r afu.
Wrth drafod ei phodlediad newydd 1 mewn 2, dywedodd bod gallu trafod canser yn agored wedi bod o gymorth, yn wahanol iawn i'r cyfnod yn Eisteddfod yr Urdd llynedd pan nad oedd wedi gwneud ei salwch yn gyhoeddus.
Darllenwch fwy am newyddion da Mari yma.