Mari Grug wedi cael 'y newyddion gorau posib' ar ôl triniaeth canser

Mari Grug
  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyflwynydd Mari Grug wedi datgelu ei bod wedi cael "y newyddion gorau posib" ar ôl derbyn triniaeth am ganser.

Ym mis Ebrill 2023 newidiodd ei bywyd dros nos wedi iddi ddarganfod lwmp yn ei bron chwith.

Cafodd diagnosis o ganser y fron ac yna triniaeth ar gyfer canser metastatic wedi i'r canser ledu i'r nodau lymff a'r afu.

Blwyddyn ers y diagnosis, mae'r fam 39 oed o Fynachlogddu wedi rhannu'r newyddion gyda Cymru Fyw fod ei dau sgan ddiwethaf ar yr afu yn glir o ganser.

Daw'r newydd wrth i Mari lansio podlediad newydd sy'n trafod canser - 1 mewn 2.

Disgrifiad,

'Fi'n teimlo gymaint o orfoledd': Mari yn rhannu'r newyddion ar ei phodlediad newydd, 1 mewn 2, sydd ar gael ar BBC Sounds

"Mae'n ddwy sgan clir yn olynol ar yr afu, sy'n newyddion da," meddai.

"Mae'n grêt ac yn bositif a'n gam yn y cyfeiriad cywir - ond ti byth yn gwybod gyda canser.

"I unrhyw un sy'n adnabod a'n deall canser mae siŵr o fod micro disease yn rhywle neu rhyw gelloedd sy' ddim wedi dangos eu hunain.

"Dwi wedi cael fy mron bant a'r nodau lymff mas ar yr ochr chwith a dwi wedi cael mamogram clir ar y fron arall – felly dyma'r canlyniadau gorau posib o ran beth sy' gyda fi."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Criw Ysbyty Singleton fu'n rhoi 15 sesiwn o radiotherapi i Mari

Wedi blwyddyn o gemotherapi, llawdriniaeth i dynnu'r fron ac yna radiotherapi, mae Mari nawr yn cael pigiad Phesgo bob tair wythnos yn Ysbyty Glangwili i reoli'r math o ganser sydd ganddi.

Maen nhw'n galw'r driniaeth yn maintenance therapy, yn ôl Mari.

Ac wedi'r ddau sgan clir mae'n edrych ymlaen i gael tri mis heb driniaeth heblaw am y pigiadau hynny.

"Mae'n gyfnod neis i gael dim triniaeth a chael amser i brosesu pethau. Mae'r corff wedi bod trwy cymaint mewn blwyddyn," meddai.

"Maen nhw am sganio fy afu bob tri mis am ddwy flynedd ac os nad oes dim wedi tyfu o fewn y ddwy flynedd maen nhw'n dweud bod fi wedi cael total response i'r driniaeth.

"Achos bod y wyddoniaeth a'r meddyginiaeth mor newydd o hyd maen nhw wedi dweud dyw nhw ddim yn siŵr beth i 'neud nesaf.

"Mae clywed hynna pan ti'n mynd i apwyntiad... ti ddim eisiau clywed hynny gan arbenigwr. Ond eto dwi'n cymryd hwn fel newyddion grêt."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mari wedi parhau i gyflwyno ar Prynhawn Da a Heno rhwng cael triniaeth

Mae'r canlyniad diweddaraf dipyn yn fwy addawol na'r diagnosis cychwynnol pan ddysgodd Mari pa fath o ganser oedd ganddi.

"'Nes i Googlo beth oedd canser y fron metastatic yn golygu ac oedd e ddim yn dda.

"Oedd e'n dweud pum mlynedd i fyw ond nawr mae pobl yn profi bod nhw yn gallu byw gyda fe.

"Yn draddodiadol maen nhw'n disgwyl i ganser y fron metastatic i ledu i bump ardal yn y corff, gyda fi mae ond wedi lledu i ddau ardal hyd yn hyn.

"Y nodau lymff yw'r broblem achos unwaith mae'n mynd iddyn nhw dyna le maen nhw'n lledu. Ond maen nhw wedi tynnu lot ohonynt erbyn hyn."

'Neb yn siŵr beth sy' o'n blaenau ni'

Yn y stiwdio yn cyflwyno Prynhawn Da oedd Mari pan gafodd hi’r newyddion am yr ail sgan clir.

"O'n i'n gwybod bod canlyniadau MRI ar y ffordd ac ar ôl gorffen Prynhawn Da 'nes i checio’r ffôn a welais i bod tecst wrth y nyrs yn dweud ‘Mari newyddion da, no evidence of disease’.

"Ffones i [ei gŵr] Gareth yn syth a wedd e'n neis i fod 'da pobl yn y gwaith sy' wedi bod trwyddo fe gyda fi yn rhannu'r gorfoledd.

"'Na beth yw bywyd gyda canser yw mynd o sgan i sgan.

"Mae cael yr ail un yn glir, mae'n amlwg fod y Phesgo injection yn cadw pethau draw.

"Mae rhywun wedi dweud wrtha'i gyda canser rhaid ti ddathlu pob canlyniad a phob cam bach, mae'n bwysig i nodi fe achos 'sym neb yn siŵr beth sy' o'n blaenau ni a ble mae'r siwrne yn mynd â ni.

"Gyda canser metastatic dyw gwellhad llwyr ddim yn bosib ond maen nhw dal gyda datblygiadau a fel mae pethau'n mynd maen nhw'n dweud 'sym rheswm bod ni ddim yn mynd am wellhad.

"I glywed gwellhad i fi mae hynny yn bendant yn beth mawr bod hynna'n bosibilrwydd."

Ffynhonnell y llun, Mari Grug
Disgrifiad o’r llun,

Mari yn recordio 1 mewn 2 gyda Dr Llinos Roberts o Gaerfyrddin a Lindsey Ellis o Gerrigydrudion

Mae Mari hefyd yn pwysleisio'r effaith ar y teulu: "Achos bod ni wedi bod trwyddo fe fel teulu beth bynnag gyda fy mam [cafodd mam Mari ddiagnosis o ganser y fron yn 46 oed] maen nhw hefyd yn trio 'neud y mwya' o bob dim.

"Dwi falle ddim yn sylweddoli'r effaith arnyn nhw.

"Mae'r straen yn amlwg – ddim dim ond fi yw e.

"Mae'r siwrne dwi'n mynd arno yn effeithio ar fy ngŵr i a'r plant, y teulu a'r teulu estynedig – 'na beth yw e gyda canser."

'Heb guddio'

Mae Mari wedi parhau i weithio drwy'r driniaeth ac yn wyneb cyfarwydd ar S4C ac yn llais cyson ar BBC Radio Cymru.

Wrth iddi rannu newyddion am ei thriniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol mae'r nifer o fenywod o bob oed sy'n cysylltu gyda hi wedi bod yn syndod ac wedi ei hysbrydoli i gychwyn podlediad newydd sy'n trafod canser, 1 mewn 2.

Y gobaith gyda'r podlediad yw i rannu profiadau o fyw gyda chanser ac mae'n annog pobl i "beidio bod ofn y canser".

"Mae'n mynd i newid dy fyd di, mae'n llorio ti a ddim dim ond ti – ti a dy deulu, dy ffrindie a dy gymuned di," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Podlediad newydd Mari, 1 mewn 2

"Ond mae'r datblygiadau yn y byd sy'n trin canser yn gyffrous iawn ar hyn o bryd – dwi'n lwcus mod i wedi cael diagnosis yn 2023 yn hytrach na 2003 neu 2013.

"Mae hefyd eisiau torri'r stigma mai hen bobl sy'n cael canser achos mae pob oedran yn cael ei effeithio.

"Dwi wedi gallu byw fy mywyd, dwi dal wedi gallu mynd i'r gwaith, dwi dal wedi gallu bod yn fam a mwynhau cael bywyd ond eto dal yn mynd trwy driniaeth. Dyw pawb ddim yn mynd i allu ond mae yn bosib.

"Dwi'n bendant ddim wedi teimlo mod i wedi gorfod mynd i guddio a cholli blwyddyn o fy mywyd o gwbl. Yn amlwg mae cyfnodau lle dwi wedi gorfod dweud na i bethau, ond ddim lot.

"Fel mam i blant bach o'n i’n benderfynol o ddim 'neud 'na achos o'n i'n meddwl os na dwi'n mynd i fod 'ma yn y blynyddoedd nesa' dwi ishe 'neud y mwya' o'r blynyddoedd dwi 'ma."

Mae podlediad newydd Mari Grug, 1 mewn 2 ar gael ar BBC Sounds.

Mae'r podlediad yn rhan o Lleisiau Cymru fydd yn cynnwys podlediadau gan Nigel Owens a Colleen Ramsey nes ymlaen eleni.

Pynciau cysylltiedig