Gorfod mynd trwy driniaeth cemotherapi 'fel teulu'
Tra ar ei fis mêl yn Siapan flwyddyn yn ôl, cafodd Nathan Ifans o Gaerdydd ddiagnosis o diwmor yr ymennydd.
“Roedd bywyd yn grêt. Roedd gwaith yn mynd yn dda, a ’mhlentyn cyntaf ar y ffordd.
“Ges i seizure a 'nes i ffindio mas bod gen i diwmor ar yr ymennydd. Digwyddodd mor gloi, o’n ni ben draw’r byd, nath e fwrw ni’n galed achos da’th e mas o unman,” meddai.
Mae Nathan wedi rhannu ei brofiad o dderbyn triniaeth cemotherapi yn Ganolfan Canser Felindre er mwyn codi ymwybyddiaeth am y cyflwr.
Dywedodd Nathan fod meddwl am ei deulu ifanc, ei wraig, Bethan a'u merch Begw, yn ei helpu drwy'r driniaeth.
“Mae’n gallu bod yn eitha' tywyll ambell ddiwrnod os dwi’n onest," meddai.
"Ma’ edrych ar Begw yn cael fi trwy lot o’r diwrnodau ond hefyd ma' meddwl am y dyfodol… ydw i’n mynd i golli mas ar rywbeth.. ma’ stwff fel 'na yn rili anodd.”
Gyda thros 400 o bobl yn cael diagnosis o diwmor yr ymennydd yng Nghymru bob blwyddyn, mae un elusen canser yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu ymchwil i'r cyflwr.
Yn ôl Iwan Roberts, sy’n gweithio i Ymchwil Canser Cymru: “Mae yna angen dyrys ar gyfer mwy o waith ymchwil ar gyfer darganfod triniaethau sy’n mynd i gadw pobl yn fyw yn hirach, triniaethau sydd yn fwy caredig iddyn nhw a hefyd mae angen gwell dealltwriaeth o’r cyflwr yn gyffredinol".
Mae'r elusen yn bwriadu buddsoddi £1 miliwn bob blwyddyn ar gyfer astudio tiwmorau’r ymennydd,
Mae Nathan yn cefnogi galwad yr elusen ac yn benderfynol o wneud gwahaniaeth.