Galwad i 'flaenoriaethu' ymchwil tiwmor yr ymennydd

Disgrifiad,

Mae Nathan Ifans yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Felindre

  • Cyhoeddwyd

Gyda thros 400 o bobl yn cael diagnosis o diwmor yr ymennydd yng Nghymru bob blwyddyn, ma' un elusen canser yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu ymchwil i'r cyflwr.

Yn wahanol i sawl math arall o ganser dyw cyfraddau goroesi tiwmor yr ymennydd ddim wedi gwella llawer dros y degawdau diwethaf.

Mae Nathan Ifans o Gaerdydd yn derbyn triniaeth cemotherapi ar hyn o bryd. Mae o’n cefnogi galwad yr elusen ac yn benderfynol o wneud gwahaniaeth.

Tra ar ei fis mêl yn Siapan flwyddyn yn ôl, fe newidiodd bywyd Nathan a’i deulu dros nos.

Disgrifiad o’r llun,

Nathan gyda'i wraig Bethan a’u merch fach Begw

“Roedd bywyd yn grêt. Roedd gwaith yn mynd yn dda, a ’mhlentyn cyntaf ar y ffordd.

“Ges i seizure a 'nes i ffindio mas bod gen i diwmor ar yr ymennydd. Digwyddodd mor gloi, o’n ni ben draw’r byd, nath e fwrw ni’n galed achos da’th e mas o unman,” meddai.

Yn byw yng Nghaerdydd gyda’i deulu ifanc – ei wraig Bethan a’u plentyn Begw - mae meddwl am y dyfodol yn ei boeni.

“Mae’n gallu bod yn eitha tywyll ambell ddiwrnod os dwi’n onest. Ma’ edrych ar Begw yn cael fi trwy lot o’r diwrnodau ond hefyd ma' meddwl am y dyfodol…ydw i’n mynd i golli mas ar rywbeth.. ma’ stwff felna yn rili anodd.”

Disgrifiad o’r llun,

"Ma’ edrych ar Begw yn cael fi trwy lot o’r diwrnodau ond hefyd ma' meddwl am y dyfodol," meddai Nathan

Yn gynharach yn y flwyddyn fe wnaeth Ymchwil Canser Cymru greu rhaglen i ariannu gwaith ymchwil i’r cyflwr.

Yn ôl Iwan Roberts sy’n gweithio i’r elusen “mae yna angen dyrys ar gyfer mwy o waith ymchwil ar gyfer darganfod triniaethau sy’n mynd i gadw pobl yn fyw yn hirach, triniaethau sydd yn fwy caredig iddyn nhw a hefyd mae angen gwell dealltwriaeth o’r cyflwr yn gyffredinol".

Bydd y rhaglen, sy’n bwriadu buddsoddi hyd at £1 miliwn bob blwyddyn ar gyfer astudio tiwmorau’r ymennydd, yn dod â gwyddonwyr, clinigwyr a niwrolawfeddygon o bob rhan o Gymru at ei gilydd i gydweithio.

Disgrifiad o’r llun,

“Mae yna angen dirfawr ar gyfer mwy o waith ymchwil ar gyfer darganfod triniaethau," meddai Iwan Roberts

Er bod ymchwil yn gwella, mae’r elusen a Nathan am weld mwy o ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ariannu ymchwil fel nad ydi’r pwysau i gyd ar elusennau.

“Mae’r buddsoddiad wedi bod yn isel iawn. Dros y 30 mlynedd diwetha’, prin iawn ma' na driniaethau newydd wedi cael eu datblygu a’u cyflwyno felly fyswn i’n hoffi gweld bod ariannu gwaith ymchwil yn flaenoriaeth hefyd i’r Llywodraeth fel ein bod yn gallu dod a gobaith i bobl yng Nghymru sy’n byw gyda canser.

“Fi’n credu dylai ymchwil mewn i diwmor yr ymennydd fod yn flaenoriaeth i’r llywodraeth. Mae’n anodd credu mai elusennau sy’n gorfod ffeindio ffordd o ariannu'r holl ymchwil yma.  Dydyn nhw ddim yn gwneud digon felly ma angen i ni weiddi a sgrechian er mwyn i’n lleisiau ni gael eu clywed.”

'Ymchwil sylweddol'

Wrth ymateb, mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn buddsoddi mewn ymchwil canser blaengar yng Nghymru.

Mae ’na ymchwil sylweddol yn digwydd medden nhw o fewn sefydliadau’r gwasanaeth iechyd - sy’n cynnwys treialon sy’n edrych ar “ddeall achosion canser yr ymennydd”.

Maen nhw hefyd wedi pwysleisio y gall ymchwilwyr yng Nghymru wneud “cais am gyllid” i gefnogi eu hymchwil.

Pynciau cysylltiedig