Sefydliad y Glowyr: 'Gwrandewch ar y bobl'
Roedd cannoedd o bobl mewn rali yn y Coed Duon ddydd Sadwrn i wrthwynebu cau Sefydliad y Glowyr.
Mae Cyngor Caerffili yn ystyried rhoi’r gorau i dalu cymhorthdal o £347,000 y flwyddyn i’r sefydliad er mwyn torri costau.
Fe fyddai hynny’n golygu y byddai’n cau ym mis Rhagfyr ac y byddai’r cyngor yn “archwilio opsiynau eraill” ar gyfer ei redeg mewn ffordd wahanol yn y dyfodol.
Mae Nicky Wire o'r band Manic Street Preachers wedi dweud y byddai’n "drist iawn" petai Sefydliad y Glowyr yn y Coed Duon yn cau.
Yn ôl arweinydd Cyngor Caerffili, y Cynghorydd Sean Morgan, mae arian yn dynn.
“Mae’n rhaid i ni ystyried ffyrdd o wneud pethau’n wahanol,” meddai.
“Mae’n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn dros y misoedd nesaf."