Aelod o’r Manics: 'Trist iawn' colli Sefydliad y Glowyr

Nicky Wire, aelod o grwp y Manic Street Preachers
Disgrifiad o’r llun,

Nicky Wire yn perfformio yn Sefydliad y Glowyr yn 2011

  • Cyhoeddwyd

Mae Nicky Wire o'r band Manic Street Preachers wedi dweud y byddai’n "drist iawn" petai Sefydliad y Glowyr yn y Coed Duon yn cau.

Mae Cyngor Caerffili yn ystyried rhoi’r gorau i dalu cymhorthdal o £347,000 y flwyddyn i’r sefydliad er mwyn torri costau.

Fe fyddai hynny’n golygu y byddai’n cau ym mis Rhagfyr ac y byddai’r cyngor yn “archwilio opsiynau eraill” ar gyfer ei redeg mewn ffordd wahanol yn y dyfodol.

Roedd cannoedd o bobl mewn rali yn y Coed Duon ddydd Sadwrn i wrthwynebu cau'r adeilad.

Disgrifiad,

Barn rhai o'r bobl oedd yn y rali ddydd Sadwrn

Cafodd Nicky Wire ei fagu yn y Coed Duon ac mae ganddo atgofion melys o Sefydliad y Glowyr.

“Fe dreuliais i gymaint o hafau yn chwarae snwcer yn wael iawn yno gan ddychmygu taw fi fyddai’r Alex Higgins nesaf,” meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Helpodd cyfraniadau glowyr i dalu am godi'r adeilad ym 1925

Mae e, fel sawl un arall yn lleol, yn poeni fod dyfodol yr adeilad yn ansicr.

“Rwy’n gwybod bod cynghorau mewn sefyllfa ofnadwy gyda chyllidebau a bod arian yn brin ond fe fyddai’n drist iawn tase hwn yn cau," meddai.

Mae’r Manic Street Preachers ymhlith y grwpiau enwog sydd wedi perfformio yno ar hyd y blynyddoedd, ynghyd â Coldplay a’r Super Furry Animals.

Disgrifiad o’r llun,

Pryder Geoff Cripps yw na fyddai'r safle yn ailagor pe bai'n cau

Mae Geoff Cripps ar banel cynghori Sefydliad Glowyr y Coed Duon. Mae e’n poeni efallai na fydd hi’n ailagor o gwbl.

“Hon yw’r unig ganolfan gelfyddydau broffesiynol yn Sir Caerffili felly byddai pawb yn yr ardal yn colli rhywbeth pwysig iawn,” meddai.

“Mae dyfodol y sefydliad yn bwysig hefyd oherwydd mae lot o’r plant sy’n defnyddio’r adeilad i ddysgu dawns neu ddrama yn mynd i weld sioeau proffesiynol neu’n cymryd rhan yn y sioeau sy’n digwydd yma.”

Angen 'mwy o obaith' ar gymuedau

Mae Wayne Thomas, ysgrifennydd ardal Undeb Glowyr De Cymru, yn cytuno.

“Gyda beth sy’n digwydd yn y cymunedau hyn mae ishe mwy o obaith arnyn nhw, a bydd cau llefydd fel hyn yn wael iawn i bawb sy’n dod yma," meddai.

"Mae'r pethau sy'n digwydd yma heddiw - dyna'r rheswm dros godi'r adeilad bron i gan mlynedd yn ôl...

"Be' sy’n mynd i ddigwydd i’r ardal hyn os yw’r llefydd hyn yn cau?”

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl ddaeth at ei gilydd ddydd Sadwrn yn galw ar y Cyngor i ddiogelu'r adeilad

Yn ôl arweinydd Cyngor Caerffili, y Cynghorydd Sean Morgan, mae arian yn dynn.

“Mae’n rhaid i ni ystyried ffyrdd o wneud pethau’n wahanol” meddai.

“Mae’n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn dros y misoedd nesaf.

"Os yw’r cyngor yn cytuno ar rhai o’r argymhellion yma fe fydd modd i ni wneud arbedion mawr.”

Mae'r cyngor hefyd yn ystyried cau amgueddfa Llancaiach Fawr gan arbed bron i £500,000, a dod â'r gwasanaeth prydau i gartrefi i ben.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ddydd Mawrth.

Pynciau cysylltiedig