Faint o fygythiad ydy clefyd y tafod glas?

Mae bygythiad clefyd y tafod glas i'r diwydiant amaeth yn "debygol iawn" o barhau y flwyddyn nesaf, meddai milfeddygon blaenllaw.

Yn ystod y misoedd diwethaf mae straen newydd o'r feirws, sy'n cael ei ledu gan wybed mân, wedi taro rhannau helaeth o ddwyrain Lloegr.

Cafodd achosion eu cadarnhau yng ngogledd Cymru hefyd, mewn anifeiliaid oedd wedi'u symud cyn i gyfyngiadau ddod i rym.

Tra bod disgwyl i'r gwybed ddechrau diflannu dros fisoedd y gaeaf, mae ffermwyr yn cael eu hannog i barhau i fod yn wyliadwrus ar gyfer arwyddion o'r haint, sydd ddim yn risg i bobl na diogelwch bwyd.

Dr Sioned Timothy, sy'n rheoli tîm milfeddygon da byw cwmni fferyllol Boehringer Ingelheim yn y Deyrnas Unedig, sy'n egluro beth yn union yw'r clefyd.