Bygythiad y tafod glas 'i barhau y flwyddyn nesaf'
- Cyhoeddwyd
Mae bygythiad clefyd y tafod glas i'r diwydiant amaeth yn "debygol iawn" o barhau y flwyddyn nesaf, meddai milfeddygon blaenllaw.
Yn ystod y misoedd diwethaf mae straen newydd o'r feirws, sy'n cael ei ledu gan wybed mân, wedi taro rhannau helaeth o ddwyrain Lloegr.
Cafodd achosion eu cadarnhau yng ngogledd Cymru hefyd, mewn anifeiliaid oedd wedi'u symud cyn i gyfyngiadau ddod i rym.
Tra bod disgwyl i'r gwybed ddechrau diflannu dros fisoedd y gaeaf, mae ffermwyr yn cael eu hannog i barhau i fod yn wyliadwrus ar gyfer arwyddion o'r haint, sydd ddim yn risg i bobl na diogelwch bwyd.
Dr Sioned Timothy sy'n rheoli tîm milfeddygon da byw cwmni fferyllol Boehringer Ingelheim yn y Deyrnas Unedig.
"Wrth bod hi'n oeri bydd y midges sy'n trosglwyddo'r feirws yn lleihau mewn niferoedd, ond mae'n debygol iawn y byddwn ni yn yr un sefyllfa flwyddyn nesa', ac o bosib yn gynharach yn y flwyddyn," eglurodd.
Mae Boehringer Ingelheim yn gyfrifol am un o dri brechlyn newydd, sydd heb fod drwy'r broses awdurdodi ffurfiol ond sydd wedi derbyn caniatâd arbennig i'w ddefnyddio dan amodau argyfwng yn Lloegr.
"Fi'n credu mae'n rhaid cynllunio - mae'n bwysig bod pobl ddim yn anghofio bod y feirws yma a bod y risg yn mynd i barhau," meddai Dr Timothy.
Cafodd achosion o'r straen ddiweddaraf o'r clefyd eu darganfod gyntaf yn Yr Iseldiroedd yn 2023, gan ledu ar draws Ewrop eleni.
Cafodd y gwybed eu chwythu o'r cyfandir ac maen nhw wedi heintio defaid a gwartheg yn nwyrain Lloegr.
Bellach mae yna gyfyngiadau ar symud anifeiliaid mewn grym ar draws 20 o siroedd - gan ymestyn o arfordir de Lloegr i Sir Gogledd Efrog.
Yr wythnos ddiwethaf daeth y cyhoeddiad y byddai Ffair Aeaf Lloegr, oedd i'w chynnal yn Sir Stafford ym mis Tachwedd, yn cael ei chanslo.
"Oherwydd natur y gwyntoedd sy'n chwythu draw o Ewrop ro'dd hi wastad yn debygol y bydde ni'n gweld yr achosion cynta' yn ne-ddwyrain Lloegr," esboniodd Dr Timothy, sy'n dod o Gastellnewydd Emlyn yn Sir Gaerfyrddin.
"Mewn ffordd mae'n ffodus bod niferoedd isel o dda byw yn yr ardaloedd hynny," sydd wedi cyfyngu'r lledaeniad, meddai.
Petai'r haint yn cyrraedd ac yn sefydlu yng Nghymru - sy'n wlad o ffermydd defaid a gwartheg - mae 'na "botensial i gael effaith ddifrifol yn economaidd ond hefyd ar lefel bersonol" i amaethwyr.
Mae'r feirws yn gallu achosi briwiau o amgylch ceg ac wyneb yr anifail, trafferthion llyncu ac anadlu, twymyn a chloffni.
Defaid sy'n cael eu heffeithio waethaf gan y straen newydd - sy'n cael ei adnabod fel BTV-3 - er bod effaith y clefyd fel petai'n amrywio yn sylweddol ar draws rhanbarthau gwahanol, gyda rhai anifeiliaid yn dangos ychydig iawn o arwyddion eu bod wedi’u heintio.
Yn Yr Iseldiroedd, mae degau ar filoedd o ddefaid wedi marw.
"Ry'n ni'n dal i ddelio ag elfen o'r unknown," rhybuddiodd Dr Timothy.
Angen bod yn 'wyliadwrus a gofalus'
Mae yna 12 o achosion o BTV-3 wedi'u canfod hyd yma y tu allan i'r parthau cyfyngedig - a'r rhain i gyd yn ymwneud ag anifeiliaid oedd wedi'u symud o ardaloedd lle mae'r haint yn lledu cyn bod hynny'n amlwg.
Maen nhw'n cynnwys dau achos yng ngogledd Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Cafodd y tafod glas ei gadarnhau mewn tair dafad ar fferm yng Ngwynedd, ac mewn anifail arall ar fferm yn Sir Fôn. Mae'r rhain i gyd bellach wedi'u difa.
Dywedodd Gwynedd Watkin, swyddog sirol Undeb Amaethwyr Cymru yng Ngwynedd, bod y newyddion wedi arwain at "bryder mawr" yn lleol.
Roedd y newyddion nad oedd tystiolaeth bod y clefyd wedi lledu i bryfed o amgylch y fferm yng Ngwynedd "yn galondid", meddai.
Ychwanegodd bod y sefyllfa wedi "profi bod y system drwyddedu ar gyfer symud anifeiliaid wedi gweithio", gan olygu bod modd olrhain o le ddaeth yr haint yn wreiddiol.
"'Dan ni'n apelio ar i bawb fod yn wyliadwrus, ac yn ofalus o ble maen nhw'n prynu eu hanifeiliaid," meddai.
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine bod ymchwiliadau wedi'u cynnal yn y ddau leoliad i ganfod a ydy'r feirws wedi lledu'n ehangach.
Roedd y gwaith yma wedi dod i'r casgliad nad oedd gwybed ger y fferm yng Ngwynedd wedi'u heintio.
"Mae'r gwaith yma'n parhau ar gyfer yr ail fferm ond ry'n ni'n gobeithio y bydd y canlyniadau'n debyg," meddai.
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn "meddwl yn ofalus iawn ynglŷn â'r wythnosau a'r misoedd nesaf hyd at y gwanwyn".
"Gobeithio na welwn ni'r cynnydd mewn difrifoldeb o ran achosion sydd wedi'u hadrodd ar draws gogledd Ewrop," meddai.
"Ond mae'n rhaid i ni fod yn barod, yn ogystal â chymryd camau ar unwaith yng Nghymru i fod yn wyliadwrus - adrodd unrhyw achosion amheus, bod yn gyfrifol o ran prynu stoc a diogelu'r fuches a'r praidd cenedlaethol rhag y tafod glas."
Roedd grŵp o randdeiliaid - sy'n cynnwys cyrff amaethyddol a milfeddygon - wedi bod yn cwrdd ers nifer o fisoedd i gadw llygad ar y sefyllfa, meddai Dr Irvine.
Roedd rôl unrhyw frechlynnau posib yn rhan o'u trafodaeth, ond ar hyn o bryd maen nhw'n "gynhyrchion sy'n newydd i'r farchnad" a "dy'n nhw ddim yn diogelu'n llawn rhag y feirws", ychwanegodd.
Rhybuddiodd Dr Irvine a Dr Timothy bod newid hinsawdd yn golygu y gallai'r clefyd ddod yn broblem fwy cyfarwydd yn y DU.
"Yn hanesyddol, bydde'r textbooks yn dweud wrthon ni bod y tafod glas yn glefyd oedd yn effeithio ardaloedd o amgylch môr y canoldir," meddai Dr Irvine.
"Yn amlwg mae hynny'n newid."
Ychwanegodd Dr Timothy: "Ry'n ni bendant yn gweld shifft o ran patrwm nifer fawr o glefydau wrth i dymereddau gynyddu ac wrth i dymhorau'r flwyddyn ddod yn llai eglur.
"Mae'n debygol, er enghraifft, y bydd presenoldeb y math o midges sy'n cario rhai o'r clefydau yma yn dod yn fwy amlwg."
Mae cyngor i unrhyw un sy'n amau eu bod wedi gweld tystiolaeth o glefyd y tafod glas i gysylltu â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), dolen allanol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref
- Cyhoeddwyd2 Hydref
- Cyhoeddwyd28 Medi