Y Coridor Ansicrwydd: Crysau eiconig
Ar ôl i un o grysau cyntaf tîm pêl-droed Cymru gael ei ddarganfod mewn atig, tybed pa grys eiconig fyddai Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn ei brynu i’w roi ar y wal?
Y gred yw bod crys sy'n dyddio nôl i 1901-1902 wedi ei ddarganfod ar ôl bod ar goll am bron i 40 mlynedd.
Fe fydd ymhlith yr eitemau pwysicaf fydd yn cael eu harddangos yn y pendraw yn Amgueddfa Bêl-droed newydd Cymru yn Wrecsam.
Mae modd gwrando ar bennod ddiweddaraf Y Coridor Ansicrwydd yma.