Canfod crys coll Cymru mewn atig

Crys CymruFfynhonnell y llun, Casgliad pel-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y crys gafodd ei ddarganfod mewn atig yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae yna ddyfalu mawr bod un o'r crysau coch cyntaf erioed i gael ei wisgo gan bêl-droedwyr Cymru wedi ei ddarganfod mewn atig ar ôl bod ar goll am bron i 40 mlynedd.

Y gred yw bod y crys yn dyddio nôl i 1901-1902 ac fe fydd ymhlith yr eitemau pwysicaf fydd yn cael eu harddangos yn y pendraw yn Amgueddfa Bêl-droed newydd Cymru yn Wrecsam.

Roedd y crys ymhlith nifer o eitemau gafodd eu rhoi i'r amgueddfa gan weddw'r diweddar Alun Evans, cyn Ysgrifennydd a chyn Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru rhwng 1982 a 1995.

Dywed swyddogion fod yna le cryf i gredu mai hwn oedd y crys aeth ar goll o gasgliad y Gymdeithas Bêl-droed wrth iddynt symud eu pencadlys o'r gogledd i Gaerdydd yn 1985.

Crys ar goll!

"Roedd yna grys coch mewn ffrâm yn yr hen bencadlys yn Wrecsam, gyda disgrifiad yn ei ddyddio 1901 i 1902, meddai Sion Lewis, swyddog ymgysylltu Amgueddfa Bêl-droed Cymru.

"Ond doedd y crys ddim yn y casgliad wnaeth gyrraedd y de. Roedd o wedi mynd ar goll yn rhywle.

"Gallwn ni ddyddio'r crys i'r cyfnod cyn 1915 oherwydd ei steil, ac roedd Cymru yn chwarae mewn gwahanol liwiau heblaw coch cyn 1900.

"Mae yna hefyd olion - wedi eu creu gan yr haul - sy'n awgrymu fod y crys yma wedi ei gadw mewn ffrâm ar un adeg."

Cafodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei sefydlu yn Wynstey Arms Wrecsam yn Chwefror 1886, gan chwarae eu gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn yr Alban ym mis Mawrth yr un flwyddyn.

Ond ni wnaeth Cymru ddechrau gwisgo'r crys coch tan ddechrau'r ganrif nesa.

"Roedd y crysau wedi eu gwneud o wlân neu gotwm ac yna yn cael eu deio.

"Gêm galed wrth feddwl am amodau heddiw. Roedd y sgidiau hefyd yn rhai trymion heb sôn am orfod penio neu gicio hen bêl ledr yn llawn dŵr," meddai Sion.

Ffynhonnell y llun, Sion Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sion Lewis yn gweithio fel Swyddog Ymgysylltu Amgueddfa Bêl-droed Cymru

Bu farw Alan Evans yn 2011. Jane ei weddw wnaeth gysylltu gyda'r amgueddfa gan ei bod ar fin symud tŷ.

"Hi wnaeth gysylltu off liwt ei hun, roedd hi'n symud tŷ ac eisiau gwaredu stwff.

"Y teimlad o'n i'n gael oedd nad oedd ganddi hi gymaint o ddiddordeb â hynny mewn pêl-droed a'i bod yn symud i le llai ac eisiau gwaredu ar bethau.

"Roedd y rhan helaeth yn llyfrau oedd o wedi casglu ac yn yr atig, nifer o lyfrau pêl-droed fatha When Pele broke our Hearts a King John am y cawr John Charles ac ambell i grys o wahanol dimau rhyngwladol.

"Chware teg roedd ei weddw wedi rhoi gyd o'r eitemau mewn bocsys."

Ym mis Mawrth y llynedd ddaeth Sion a chydweithiwr lawr o'r gogledd i gasglu'r eitemau a hefyd i gasglu deunydd a gwybodaeth o glwb pêl-droed Pont-y-clun ar gyfer yr amgueddfa newydd.

Ffynhonnell y llun, Casgliad pel-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Hen farics Wrecsam - adeilad fydd yn gartref i'r amgueddfa newydd

"Ar ôl casglu'r eitemau o Gaerdydd o'n i'n gynnar ym maes parcio Pont-y-clun a dyna ni gyfle i gael golwg yn y bocsys a dyna ni'n gweld y crys coch.

"O'n i wedi gweld lluniau o'r hen grys coch ac roedd hwn yn union yr un steil.

"Yr unig wahaniaeth oedd nad oedd yr un yma mewn ffrâm.

"Os mai hwn ydi'r un oedd ar goll mae o wedi ffeindio ei ffordd adre ar hyd yr A483 ar ôl yr holl flynyddoedd yma ac yna mor agos i hen gartref y Gymdeithas Bêl-droed yn Fairy Road."

Mae disgwyl i'r amgueddfa bêl-droed agor ei drysau am y tro cyntaf yn 2026.

Bydd wedi ei lleoli yn hen farics a llysoedd barn y dre, ac yn rhannu'r adeilad gydag Amgueddfa ac Archifau Wrecsam.

Dywed yr amgueddfa mai hwn fydd cartref y casgliad mwyaf o femorobilia pêl-droed Cymru sy'n eiddo i'r cyhoedd yng Nghymru.

Mae'r safle ar gau ar hyn o bryd wrth i'r gwaith o ailwampio’r adeilad fynd yn ei flaen.