Josh Adams: 'Ni eisiau chwarae mwy gyda'r bêl'

Mae asgellwr Cymru Josh Adams yn gobeithio y bydd y tîm yn gallu datblygu sawl agwedd o'u chwarae'r wythnos hon wrth iddyn nhw baratoi yn ne Ffrainc ar gyfer y gêm yn erbyn yr Eidal yn Rhufain ddydd Sadwrn.

Mae Cymru wedi teithio i Nice ar ôl colli 43-0 i Ffrainc yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ym Mharis.

Mae'r tîm cenedlaethol bellach wedi colli 13 gêm ryngwladol o'r bron a heb ennill yn y Chwe Gwlad ers curo'r Eidal yn Rhufain yn 2023.

Mae disgwyl i'r tîm fydd yn herio'r Eidal gael ei gyhoeddi ddydd Iau.