Chwe Gwlad: Cymru'n colli'n drwm i Ffrainc

Cymru v FfraincFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r tro cynta' erioed yn y Chwe Gwlad i Gymru fethu sgorio pwynt mewn gêm

  • Cyhoeddwyd

Mae record wael ddiweddar tîm rygbi Cymru yn parhau wedi iddyn nhw gael eu trechu gan Ffrainc yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae'r golled o 43 pwynt i 0 yn golygu bod Cymru wedi colli 13 gêm brawf yn olynol, sy'n ymestyn record o ran colledion.

Mae hefyd yn golygu bod tîm Warren Gatland, a oedd yn dathlu ei 150fed gêm wrth y llyw yn y Stade de France, wedi mynd dros flwyddyn galendr gyfan heb ennill gêm brawf.

Fe fydd gêm nesaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn yr Eidal ddydd Sadwrn, 8 Chwefror.

Antoine Dupont i Ffrainc cyn eu trydydd caisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Antoine Dupont i Ffrainc cyn eu trydydd cais yn yr hanner cyntaf

Wedi'r colledion trwm blaenorol yng Nghyfres yr Hydref, roedd cael canlyniad da ym Mharis wastad yn mynd i fod yn dalcen caled.

Roedd hi'n ddechrau bratiog i'r gêm, gydag ergyd yn dod gan Ffrainc yn y munudau agoriadol.

Roedd Cymru'n cael eu gwthio'n ôl dro ar ôl tro a daeth dau gais cyntaf y tîm cartref - gan Theo Attissogbe a Louis Bielle-Biarrey - o fewn pum munud o'u gilydd.

Wrth i'r hanner cyntaf fynd yn ei blaen, roedd yna arwyddion pendant o'r gwahaniaeth o ran safon y ddau dîm, gyda Ffrainc yn rhy gyflym a chryf i dîm Warren Gatland.

Daeth y trydydd cais diolch i Attissogbe gyda Thomas Ramos yn trosi unwaith eto i'w gwneud hi'n 21-0.

Roedd y pwysau ar Gymru'n ddi-baid a gyda munud i fynd o'r hanner cyntaf, fe geisiodd Bielle-Biarrey am yr ail dro gan sicrhau pwynt bonws cyn i Ramos drosi am y pedwerydd tro i'w wneud hi'n 28-0 ar yr egwyl.

Louis Bielle-Biarrey gyda'r bêl i Ffrainc yn yr ail hannerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Louis Bielle-Biarrey gyda'r bêl i Ffrainc yn yr ail hanner

Wedi 10 munud o'r ail hanner fe ddechreuodd i Ffrainc warchod rhai o'u chwaraewyr, gyda sawl un yn camu oddi ar y cae - gan gynnwys seren yr hanner cyntaf Dupont.

Roedd dechrau'r ail hanner yn debyg i'r cyntaf, gyda Ffrainc ar y droed flaen a Chymru'n amddiffyn yn dda.

Ond gyda'r pwysau'n cynyddu, daeth y pumed cais gan Julien Marchand ar ôl i Ffrainc weithio lein yn dda.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru, gyda chais gan Emilien Gailleton eiliadau ar ôl iddo gamu ar y cae.

Cafodd Romaine Ntamack gerdyn coch am drosedd ar Dan Edwards i roi mantais i Gymru o ran y niferoedd ar y cae - ond roedd yr ornest drosodd ers amser maith.

Gyda llai na pum munud i fynd, fe wnaeth Ffrainc osod record am eu buddugoliaeth fwyaf dros Gymru gyda'u seithfed cais o'r noson yn ei gwneud hi'n 43-0.

Dyma'r tro cynta' erioed yn y Chwe Gwlad i Gymru fethu sgorio pwynt mewn gêm.