'Rhannau mawr o'r ffyrdd dan ddŵr'

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymateb i lifogydd ym mhentref Pontrhydfendigaid yn Sir Geredigion.

Daw wrth i Heddlu Dyfed-Powys gyhoeddi digwyddiad difrifol ar draws siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Penfro a Phowys oherwydd yr anrhefn yn sgil Storm Darragh.

Mae'r llu am atgyfnerthu y neges i bobl i beidio teithio oni bai bod hynny yn wir angenrheidiol.

Mae amharu difrifol ar y ffyrdd, gyda choed wedi disgyn ar draws y wlad, a llifogydd mewn mannau.