Dedfryd Foden yn adlewyrchu troseddau 'anfaddeuol'
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi croesawu dedfryd o 17 mlynedd i gyn-bennaeth ysgol yng Ngwynedd a gafwyd yn euog o gam-drin merched yn eu harddegau.
Ym mis Mai cafwyd Neil Foden yn euog o 19 o gyhuddiadau o gam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.
Roedd Foden, 66, yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn bennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y ddedfryd yn adlewyrchu natur "ofnadwy" ei droseddau.
“Fel pennaeth ysgol, ei swydd oedd diogelu pobl ifanc, edrych ar eu holau a’u datblygu nhw er mwyn cael dyfodol gwell," meddai'r Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Gareth Evans.
"Yn lle hynny, mi wnaeth gamddefnyddio ei swydd er mwyn ei foddhad rhywiol ei hun."