Neil Foden yn cael ei garcharu am 17 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Neil Foden, cyn-bennaeth ysgol yng Ngwynedd, wedi ei garcharu am 17 mlynedd.
Ym mis Mai cafwyd Foden yn euog o 19 o gyhuddiadau o gam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.
Roedd Foden, 66, yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn bennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.
Bydd yn rhaid iddo dreulio dau draean o'i ddedfryd o dan glo cyn y bydd modd ystyried ei ryddhau.
Roedd Foden wedi gwadu'r holl gyhuddiadau a honni nad oedd wedi cyffwrdd â'r merched.
Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fore Llun.
Fe ddywedodd y barnwr Rhys Rowlands fod Foden yn "fwli" a oedd yn "cuddio cyfrinach erchyll... obsesiwn gyda merched ifanc".
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd15 Mai
Fe gymerodd Foden fantais o'i safle fel prifathro er mwyn ei "foddhad rhywiol llygredig" dro ar ôl tro, medd y Barnwr Rowlands.
"Doeddech chi ddim yn meddwl y byddai unrhyw un yn eich herio, na'r dioddefwyr yn siarad.
"Heb hyder y dioddefwyr a chymorth eu teuluoedd, nac ymchwiliad trwyadl yr heddlu, fe fyddech chi wedi parhau i droseddu."
Dywedodd bod Foden wedi bod yn "ddylanwad milain" ac wedi boddhau ei hun hyd iddo gael ei arestio.
"Doeddech chi ddim wedi dangos owns o edifeirwch a does gennych chi ddim dealltwriaeth o'r niwed difrifol iawn yr ydych chi wedi ei achosi i'ch dioddefwyr a'u teuluoedd... yn ogystal â'ch cydweithwyr."
Roedd Foden yn "gymeriad gormesol" a "bwli" a gafodd ei gosbi ar ôl i'w ddioddefwyr orfod ail-fyw yr hyn ddigwyddodd iddynt, meddai.
"Roeddech chi'n ddyn yr oedd pobl yn ei edmygu, ond yn cuddio cyfrinach erchyll... obsesiwn gyda merched ifanc."
Ychwanegodd fod absenoldeb ymchwiliad ffurfiol wedi i aelodau o staff fynegi pryder am ymddygiad Foden gyda Chyngor Gwynedd o bosib wedi "annog" Foden i barhau i droseddu.
"Roeddech chi'n byw celwydd."
Dywedodd y byddai Foden yn cael ei wahardd rhag gweithio â phlant byth eto, ac y byddai'n cael ei ychwanegu at y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
Fe osododd orchymyn atal 10 mlynedd ar Foden, sy'n ei wahardd rhag cysylltu â'i dioddefwyr.
'Dyfodol anobeithiol'
Fe eisteddodd Foden gyda'i ben wedi plygu wrth i ddatganiadau gan y pedair a gafodd eu cam-drin gael eu darllen i'r llys.
Ar adegau, siglodd y cyn-bennaeth ei ben fel petai'n anghytuno â'r hyn yr oedd yn ei glywed.
Fe ddywedodd un o'r dioddefwyr - Plentyn D - ei bod hi wedi'i "drysu" gan weithredoedd Foden, a'i bod yn cael hunllefau ac ôl-fflachiadau.
"Dwi wedi colli pob un o'm ffrindiau a dwi'n teimlo'n unig," meddai.
"Mae fy nyfodol yn teimlo'n gwbl anobeithiol."
Fe wnaeth dioddefwr arall, a elwir yn Plentyn C, ddarllen ei datganiad i'r llys – am ei bod i Foden glywed “yn uniongyrchol yr effaith gafodd o” ar ei bywyd.
Esboniodd hi nad oedd modd iddi gofleidio’i thad am yn hir iawn yn sgil yr hyn ddigwyddodd iddi.
“Dwi ddim eisiau bod yn hapus na mwynhau fy hun, achos ‘dw i'n poeni y bydda’ i'n torri.
“Fe gymerodd o fantais o fy nghorff a fy meddwl... o’n i'n arfer bod yn berson hapus... nawr dwi'n fwy oeraidd, a dwi ddim yn poeni."
Dywedodd ei bod wedi gofyn i Foden a oedd hi’n gallu ymddiried ynddo, a’i fod wedi dweud ei bod hi.
“Roeddet ti’n dweud celwydd,” meddai hi wrth Foden ddydd Llun.
Darllenodd Plentyn B ei datganiad i'r llys, gan ddweud bod Foden wedi “rhwygo rhan enfawr” o’i bywyd oddi wrthi.
“Mae’n brifo achos ro’n i'n ymddiried ynddo fo... mae o wedi cymryd fy ngallu i ymddiried mewn pobl i ffwrdd ohona’ i.”
Ychwanegodd y gallai straen yr achos llys fod wedi ei osgoi “pe bai Mr Foden wedi dweud y gwir yn y lle cyntaf".
Yn natganiad Plentyn A, a gafodd ei ddarllen i'r llys, dywedodd hi fod gweithredoedd Foden yn “anfaddeuol” a bod y dioddefwyr wedi cael eu “hecsbloetio”.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y ddedfryd yn "adlewyrchu natur ofnadwy troseddau Neil Foden".
“’Da ni’n rhannu sioc a ffieidd-dod ein cymunedau tuag at ei droseddau," meddai'r Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Gareth Evans.
“Fel pennaeth ysgol, ei swydd oedd diogelu pobl ifanc, edrych ar eu holau a’u datblygu nhw er mwyn cael dyfodol gwell.
"Yn lle hynny, mi wnaeth gamddefnyddio ei swydd er mwyn ei foddhad rhywiol ei hun.
“Galla i ddim gor-ddweud yr effaith mae hyn wedi’i gael ar ein cymunedau ni, yn enwedig ar bobl ifanc yr ardal.
“’Dwi’n annog unrhyw un sydd wedi dioddef trais rhywiol yn y gorffennol i ddod atom ni. ‘Da ni yma i wrando. ‘Da ni yma i’ch helpu chi. Mi wnawn ni ein gorau drosoch chi.”
Ychwanegodd Gwasanaeth Erlyn y Goron eu bod nhw'n croesawu'r ddedfryd.
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y dioddefwyr yn cael eu cysuro gan y ddedfryd a'r ffaith bod Foden wedi'i gosbi," medd yr Uwch Erlynydd Ceri Ellis-Jones.
Cafwyd Neil Foden yn euog ym mis Mai o:
12 cyhuddiad o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn;
dau gyhuddiad o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn mewn sefyllfa o ymddiriedaeth;
un cyhuddiad o achosi neu annog gweithgaredd rhywiol â phlentyn;
un achos o geisio trefnu i gyflawni trosedd rhyw â phlentyn;
un cyhuddiad o gyfathrebu rhywiol gyda phlentyn;
un achos o feddu ar luniau anweddus o blentyn;
un cyhuddiad o ymosodiad rhywiol ar blentyn.
Cafwyd o’n ddieuog o un cyhuddiad o weithgarwch rhywiol gyda phumed merch.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.