Drama'n gyfle i ddangos gweithwyr cymdeithasol 'anhygoel'

Mae awdur drama newydd sy’n dilyn cwpl hoyw wrth fabwysiadu yn dweud bod agweddau cymdeithas “wedi dod yn bell” yn yr 20 mlynedd ddiwethaf.

Er bod “rhagfarn” yn dal i fodoli ymhlith rhai, meddai Daf James, mae hynny’n dangos pwysigrwydd “dweud straeon fel hyn” wrth gynulleidfaoedd ehangach.

Er nad yw Lost Boys & Fairies yn stori go iawn, mae’r ysgrifennwr yn cydnabod bod elfennau ohoni wedi eu hysbrydoli gan ei brofiad diweddar yntau a’i bartner wrth fynd ati i fabwysiadu tri o blant.

Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd y dramodydd ei fod eisiau dangos gweithwyr cymdeithasol fel y bobl "anhygoel" oedden nhw yn ei brofiad ei hun.