Mabwysiadu: ‘Pwysig bod ni’n dweud straeon fel hyn’

Lost Boys & FairiesFfynhonnell y llun, BBC/Duck Soup Films
  • Cyhoeddwyd

Mae awdur drama newydd sy’n dilyn cwpl hoyw wrth fabwysiadu yn dweud bod agweddau cymdeithas “wedi dod yn bell” yn yr 20 mlynedd ddiwethaf.

Er bod “rhagfarn” yn dal i fodoli ymhlith rhai, meddai Daf James, mae hynny’n dangos pwysigrwydd “dweud straeon fel hyn” wrth gynulleidfaoedd ehangach.

Er nad yw Lost Boys & Fairies yn stori go iawn, mae’r ysgrifennwr yn cydnabod bod elfennau ohoni wedi eu hysbrydoli gan ei brofiad diweddar yntau a’i bartner wrth fynd ati i fabwysiadu tri o blant.

Mae’n cydnabod hefyd ei fod yn gwneud pwynt “gwleidyddol” wrth drafod themâu o’r fath mewn cyfres fydd yn cael ei darlledu ar BBC One – a fydd yn cynnwys rhywfaint o Gymraeg hefyd.

'Cynrychiolaeth bositif'

Wedi’i fagu yng Nghaerdydd, mae Daf James wedi ysgrifennu dramâu a chyfresi teledu yn y Gymraeg a’r Saesneg, a’r wythnos ddiwethaf daeth yn un o enillwyr diweddaraf Gwobr Tir na n-Og gyda nofel i blant.

Mae wedi hen arfer, felly, gyda “chymryd rhannau o fy mywyd i a’u rhoi nhw ar lwyfan”.

Ond stori ddychmygol yw un Gabriel ac Andy yn Lost Boys & Fairies, wrth iddyn nhw fynd drwy’r broses fabwysiadu, ac ar yr un pryd archwilio’u perthynas gyda’r bobl eraill yn eu bywydau.

Disgrifiad,

Mae Daf James wedi ysgrifennu dramâu theatr fel Llwyth a Tylwyth, ac ar gyfer cyfresi teledu fel Gwaith/Cartref ar S4C

“Pan ‘dych chi’n dod yn riant ac yn mynd drwy’r broses o fabwysiadu, mae’n golygu eich bod chi’n edrych ar y ffordd rydych chi wedi cael eich magu, ar eich plentyndod chi, ar yr hyn ‘dych chi’n ei gredu, ar sut 'dych chi’n meddwl 'dych chi am fod yn riant,” esboniodd Daf.

Roedd hefyd yn awyddus i adlewyrchu ei brofiad “positif” ef a’i bartner yn y byd go iawn gyda’r gweithwyr cymdeithasol.

“Fel arfer mewn dramâu a rhaglenni teledu, nhw yw’r antagonists, y gelyn fel petai,” meddai.

“Felly roedd e’n neis i roi’r gynrychiolaeth bositif, achos dyna oedd ein profiad ni o fynd drwy’r broses fabwysiadu.”

Sawl 'lleiafrif'

Mae’r cymeriadau yn y ddrama yn adlewyrchu ar eu magwraeth hefyd, gan gynnwys y cyfnod cyn diddymu Cymal 28, oedd ar y pryd yn gwahardd “propaganda hoyw” mewn ysgolion.

Mae’r cyfle felly i ysgrifennu am y pwnc ar gyfer cynulleidfa mor eang yn rhywbeth mae Daf James yn teimlo “mor ddiolchgar” ohono.

“Ni ‘di dod yn bell wrth gwrs,” meddai.

“Mae cyplau hoyw wedi gallu mabwysiadu o 2005 ymlaen, gallu priodi o 2013, felly mae pethau wedi gwella.

“Ac mae ‘na gymaint o blant allan yna sydd angen cariad... os ydy [cwpl] yn gallu cynnig cartref a chariad, a chadw’r plant yma’n saff, dyna sy’n bwysig.”

Ffynhonnell y llun, BBC/Duck Soup Films/Simon Ridgway
Disgrifiad o’r llun,

Sion Daniel Young (chwith) sy'n chwarae rhan Gabriel, tra bod Fra Fee yn portreadu ei bartner Andy

Mae ef a’i bartner yn ffodus, meddai, nad ydyn nhw wedi gorfod wynebu’r un rhagfarn ac eraill yn y gymuned LHDTC+ sy’n “gorfod brwydro’n galed” am yr un hawliau.

“Beth sy’n ffantastig mewn ffordd, mae plant sydd wedi cael eu mabwysiadu mewn lleiafrif, ond mae 'na gyplau hoyw ac maen nhw mewn lleiafrif hefyd,” meddai.

“Felly ‘dyn ni jyst yn dysgu’n plant ni fod e’n ok i fod mewn lleiafrif, ac i ddathlu hynny hefyd.”

Ffynhonnell y llun, BBC/Duck Soup Films/Simon Ridgway
Disgrifiad o’r llun,

Arwel Gruffydd sy'n chwarae rhan y perfformiwr drag Fanny Ample yn y ddrama

Lleiafrif arall fydd yn cael llwyfan yn y gyfres, wrth iddi gael ei darlledu ar BBC One ar draws Prydain gyfan, yw siaradwyr Cymraeg.

Dyna’r iaith sy’n cael ei chlywed mewn golygfeydd rhwng Gabriel a’i dad, mewn cam bwriadol gan y cynhyrchydd i adlewyrchu’r dwyieithrwydd sydd hefyd yn rhan o’i fywyd go iawn.

“Mae hwnna’n teimlo fel rhywbeth ffantastig yn wleidyddol i fi,” meddai Daf James.

“Achos dyna fy mhrofiad i, dyna fy mywyd i.

"Mae isie’r gynrychiolaeth mas yna, ac mae eisiau’r iaith Gymraeg mas ‘na, dyna beth sy’n bwysig iawn i fi.”

Bydd Lost Boys & Fairies ar BBC One ar 3 Mehefin am 21:00, neu ar BBC iPlayer.