Cymru'n gobeithio am fuddugoliaeth yn erbyn y Wallabies
Byddai buddugoliaeth dros Awstralia yn "rhoi lot o hyder" i garfan Cymru, yn ôl Gareth Thomas.
Bydd Cymru'n dechrau eu taith haf yn Awstralia drwy herio'r Wallabies yn Stadiwm Allianz, Sydney, ddydd Sadwrn.
Mae tri chwaraewr sydd eto i ennill cap yn y garfan ar gyfer y daith, gyda Dewi Lake yn gapten.
Dywedodd y prop pen rhydd cyn y gêm fod y garfan yn gobeithio am fuddugoliaeth.
"Ni wedi bod yn canolbwyntio ar ein hunain - ni'n gwbod yn iawn beth sydd isie i ddatblygu i fod yn dîm rili dda, i ennill gemau, a 'na beth ni moyn neud yn yr haf yw ennill gemau.
"Ni yn garfan sy'n gweithio'n galed - mae'r hyfforddwyr yn 'neud job da iawn gyda ni, a lot o detail yn mynd mewn i beth 'yn ni'n trio 'neud.
"Bydde buddugoliaeth mas fan hyn yn meddwl lot i ni am y gwaith caled 'yn ni'n 'neud."
Bydd sylwebaeth fyw o'r gêm brawf ar BBC Radio Cymru, gyda'r rhaglen yn cychwyn am 10.30 fore Sadwrn.