Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer eu taith i Awstralia

Efan Daniel, Josh Hathaway, Regan GraceFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gall Efan Daniel, Josh Hathaway a Regan Grace ennill eu capiau cyntaf fis nesaf

  • Cyhoeddwyd

Mae tri chwaraewr sydd eto i ennill cap wedi cael eu henwi yng ngharfan Cymru ar gyfer eu taith haf i Awstralia.

Bachwr Caerdydd Efan Daniel, asgellwr Caerfaddon Regan Grace ac asgellwr Caerloyw Josh Hathaway yw’r tri hynny.

Dewi Lake fydd capten y tîm cenedlaethol wrth iddyn nhw wynebu’r Wallabies yn Sydney a Melbourne, ac yna’r Queensland Reds yn Brisbane ym mis Gorffennaf.

Mae 34 o chwaraewyr yn y garfan – 19 o flaenwyr ac 15 olwr – ac mae 597 o gapiau rhyngwladol rhyngddynt.

Disgrifiad o’r llun,

Dewi Lake o'r Gweilch fydd yn arwain Cymru yn y gemau yn erbyn Awstralia a'r Queensland Reds

Mae Keiron Assiratti ac Elliot Dee yn absennol o’r garfan oherwydd anafiadau, yn ogystal â Henry Thomas.

"Mae’r garfan yma’n fy nghyffroi,” meddai prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland.

"'Ry’n ni’n gwybod fod Awstralia’n lle anodd i fynd iddo i chwarae rygbi – ond '"ry’n ni wir yn edrych 'mlaen at y daith a’r her honno."

Y garfan yn llawn

Blaenwyr

Corey Domachowski, Kemsley Mathias, Gareth Thomas, Efan Daniel, Dewi Lake (capten), Evan Lloyd, Archie Griffin, Dillon Lewis, Harri O’Connor, Ben Carter, Cory Hill, Dafydd Jenkins, Matthew Screech, Christ Tshiunza, James Botham, Mackenzie Martin, Taine Plumtree, Tommy Reffell, Aaron Wainwright.

Olwyr

Ellis Bevan, Gareth Davies, Kieran Hardy, Sam Costelow, Mason Grady, Eddie James, Ben Thomas, Nick Tompkins, Owen Watkin, Rio Dyer, Regan Grace, Josh Hathaway, Liam Williams, Jacob Beetham, Cameron Winnett.

Gemau Cymru ar eu taith yn Awstralia

Awstralia v Cymru - Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf

Stadiwm Allianz, Sydney

Cic gyntaf 10:55 amser Cymru, 19:55 amser lleol

Awstralia v Cymru - Dydd Sadwrn 13 Gorffennaf

Parc AAMI, Melbourne

Cic gyntaf 10:55 amser Cymru, 19:55 amser lleol

Queensland Reds v Cymru - Dydd Gwener 19 Gorffennaf

Stadiwm Suncorp, Brisbane

Cic gyntaf 10:55 amser Cymru, 19:55 amser lleol

Pynciau cysylltiedig