Enwebiadau BAFTA: 'Prawf bod dim rhaid gadael Cymru'

Mae enwebiadau gwobrau BAFTA Cymru 2024 yn rhoi "neges bwysig" i unrhyw berson ifanc sydd ag awydd gweithio yn y diwydiant ffilm a theledu nad oes angen gadael Cymru.

Dyna ddywedodd y gyflwynwraig a chyfarwyddwr gyda chwmni teledu Tinopolis, Angharad Mair - cadeirydd presennol BAFTA Cymru - wrth grybwyll rhai o'r cynyrchiadau sydd wedi'u henwebu eleni.

Y ffilm Men Up, am brofion clinigol yn Ysbyty Treforys Abertawe yn y 90au, a arweiniodd at ddarganfod y cyffur Viagra, sydd wedi derbyn y nifer uchaf o enwebiadau, sef chwech.

Mae'r gyfres ddrama Pren ar y Bryn, y rhaglen ddogfen Siân Phillips yn 90 a'r rhaglenni Paid â Dweud Hoyw a Siwrna Scandi Chris ymhlith y cynyrchiadau Cymraeg sydd wedi eu henwebu.

Yn ôl Angharad Mair, mae'r ffaith bod mwyafrif yr actorion all ennill gwobrau am eu perfformiadau yn siaradwyr Cymraeg, "yn blatfform gwych" i'r iaith, er bod hynny am eu gwaith mewn cynyrchiadau Saesneg yn achos Aimee Ffion-Edwards, Alexandra Roach a Sion Daniel Young.

Dywedodd hefyd wrth raglen Dros Frecwast bod enwebiadau eleni fwy nag erioed yn amlygu cynyrchiadau sy'n cynnig "portread o Gymru i du hwnt i Gymru".