Cyhoeddi enwebiadau gwobrau BAFTA Cymru 2024

Disgrifiad,

Yn ôl cadeirydd BAFTA Cymru Angharad Mair, mae'r enwebiadau yn profi nad oes angen i bobl ifanc i adael Cymru

  • Cyhoeddwyd

Ffilm am brofion clinigol yn Ysbyty Treforys Abertawe yn y 90au, a arweiniodd at ddarganfod y cyffur Viagra, sydd wedi derbyn y nifer uchaf o enwebiadau ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru eleni.

Fe allai ffilm Men Up ennill mewn chwe chategori yn y seremoni, fydd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd ar 20 Hydref.

Mae pum enwebiad i raglen Pren ar y Bryn, gan gynnwys y ddrama deledu orau, Rhodri Meilir fel yr actor gorau a Nia Roberts fel yr actores orau.

Pum enwebiad hefyd sydd i gyfresi Steeltown Murders a Doctor Who, a phedwar i'r gyfres ddrama Wolf.

Mae tri enwebiad hefyd i raglen Siân Phillips yn 90, gan gynnwys ar gyfer y rhaglen ddogfen sengl orau.

Mae'r enwebiadau eraill yn cynnwys Chris Roberts fel y cyflwynydd gorau ar gyfer rhaglen Siwrna Scandi Chris, a Stifyn Parri am yr un wobr ar gyfer rhaglen Paid â Dweud Hoyw.

Mae rhaglenni Cân i Gymru ac Iaith ar Daith wedi'u henwebu fel y rhaglen adloniant orau, tra bod enwebiad i Annes Elwy fel yr actores orau am ei pherfformiad ar raglen Bariau.

Yr enwebiadau'n llawn

Actor

  • Ncuti Gatwa - Doctor Who - Bad Wolf / BBC Studios Productions / BBC One

  • Philip Glenister - Steeltown Murders - Severn Screen / BBC One Wales

  • Rhodri Meilir - Pren ar y Bryn - Fiction Factory / S4C

  • Sion Daniel Young - Slow Horses - See-Saw Films mewn cysylltiad ag Apple / Apple TV+

Actores

  • Aimee-Ffion Edwards - Dreamland - Merman Television / Sky Atlantic

  • Alexandra Roach - Men Up - Boom Cymru / Quay Street Productions / BBC One

  • Annes Elwy - Bariau - Rondo Media / S4C

  • Nia Roberts - Pren ar y Bryn - Fiction Factory / S4C

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nia Roberts a Rhodri Meilir wedi cael eu henwebu am eu perfformiadau yn y gyfres ddrama Pren ar y Bryn

Cymru Torri Drwodd

  • Alaw Llewelyn Roberts - Bariau - Rondo Media / S4C

  • Bethan Marlow - The Date - Candid Broads Productions

  • Daisy Brown - Slammed: The Eighties - BBC Cymru Wales / BBC One Wales

  • Janis Pugh - Chuck Chuck Baby - Artemisia Films Ltd / Delta Pictures

Rhaglen Blant

  • I Was Bullied - Yeti Television / CBBC

  • Newyddion Ni - BBC Cymru / S4C

  • Sêr Steilio - Yeti Television / S4C

Dylunio Gwisgoedd

  • Dawn Thomas-Mondo - Steeltown Murders - Severn Screen / BBC One Wales

  • Hayley Nebauer - Black Cake – Hulu / CBS UK Productions Ltd / Kapital Entertainment / Disney+

  • Ffion Elinor - Pren ar y Bryn - Fiction Factory Films / S4C

Cyfarwyddwr: Ffeithiol

  • Caryl Ebenezer - Siân Phillips yn 90 - Rondo Media / S4C

  • Chloe Fairweather - The Kidnap of Angel Lynn - Wonderhood Studios / Channel 4

  • Jenny Casterton - The Crash Detectives - BBC Cymru Wales / BBC One Wales

  • Jess Howe - Strike! The Women Who Fought Back - Frank Films / BBC One Wales

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai'r rhaglen ddogfen Siân Phillips yn 90 gipio tair gwobr BAFTA

Cyfarwyddwr: Ffuglen

  • Ashley Way - Men Up - Quay Street Productions / Boom Cymru / BBC One

  • Euros Lyn - Heartstopper - See-Saw Films / Netflix

  • Lee Haven Jones - Passenger - Sister Pictures / ITV/ Britbox / ITV1

  • Marc Evans - Steeltown Murders - Severn Screen / BBC One Wales

Golygu

  • Dylan Goch - Firebombers - Zwwm / BBC One Wales

  • John Richards - Men Up - Boom Cymru / Quay Street Productions / BBC One

  • Sara Jones - The Way - Red Seam mewn cysylltiad â Little Door Productions / BBC One

  • Tim Hodges - Doctor Who - Bad Wolf / BBC Studios Productions / BBC One

Rhaglen Adloniant

  • Cân I Gymru 2024 - Afanti Media / S4C

  • Christmas With Katherine Jenkins - Afanti Media / BBC Two

  • Iaith Ar Daith - Boom Cymru / S4C

  • Max Boyce At 80 - Afanti Media / BBC One Wales

Cyfres Ffeithiol

  • Siwrna Scandi Chris - Cwmni Da / S4C

  • Slammed: The Eighties - BBC Cymru Wales / BBC One Wales

  • Welcome To Wrexham - NEO Studios for Boardwalk Pictures / FX/ Disney+

  • Y Frwydr: Stori Anabledd - Cardiff Productions / S4C

Ffynhonnell y llun, BBC/Quay Street Productions/Tom Jackson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Men Up yn olrhain stori wir datblygu'r cyffur Viagra yn Ysbyty Treforys yn y 1990au

Ffilm Nodwedd/Deledu

  • Bolan's Shoes - Buffalo Dragon

  • Chuck Chuck Baby - Artemisia Films Ltd / Delta Pictures

  • Men Up - Boom Cymru / Quay Street Productions / BBC One

Colur a Gwallt

  • Claire Pritchard-Jones - Wolf - Hartswood Films / APC Studios / BBC One

  • Claire Williams - Doctor Who - Bad Wolf / BBC Studios Productions / BBC One

  • James Spinks - Y Sŵn - Swnllyd

Ffotograffiaeth Ffeithiol

  • Haydn Denman - Siân Phillips yn 90 - Rondo Media / S4C

  • Sam Jordan-Richrdson - Legends of Welsh Sport: Jim Roberts - On Par Productions / BBC One Wales

  • Theo Tennant - Frontier Town - Beehive Films Ltd

Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen

  • Bryan Gavigan - Passenger - SISTER mewn cysylltiad â Northern SISTER / ITV

  • Sam Heasman - Wolf - Hartswood Films / APC Studios / BBC One

  • Sam Thomas - Steeltown Murders - Severn Screen / BBC One Wales

Cyflwynydd

  • Chris Roberts - Siwrna Scandi Chris - Cwmni Da / S4C

  • Lemarl Freckleton - Black Music Wales - Lazerbeam / BBC Two Wales

  • Rhod Gilbert - Rhod Gilbert: A Pain In the Neck - Kailash Films / Llanbobl Vision / Channel 4

  • Stifyn Parri - Paid â Dweud Hoyw - Rondo Media / S4C

Dylunio Cynhyrchiad

  • Caroline Steiner - Chuck Chuck Baby - Artemisia Films Ltd / Delta Pictures

  • Gerwyn Lloyd - Pren ar y Bryn - Fiction Factory Films / S4C

  • James North - The Winter King - Bad Wolf / ITVX

Disgrifiad o’r llun,

Mae pedwar actor wedi eu henwebu yn y categorïau perfformio am y tro cyntaf eleni - Ncuti Gatwa (uchod yn Doctor Who), Aimee-Ffion Edwards, Alexandra Roach a Philip Glenister

Ffilm Fer

  • Being Seen - On Par Productions

  • Frontier Town - Beehive Films Ltd

  • Smile - Tremendos Films / Captain Howdy Films Ltd

  • Spectre Of The Bear - CPE Productions / Ffilm Cymru Wales / BFI Network / BBC Cymru Wales

Rhaglen Ddogfen Sengl

  • Paid  Dweud Hoyw - Rondo Media / S4C

  • Rhod Gilbert: A Pain In The Neck - Kailash Films / Llanbobl Vision / Channel 4

  • Siân Phillips Yn 90 - Rondo Media / S4C

  • Strike! The Women Who Fought Back - Frank Films / BBC One Wales

Sain

  • Tîm sain Doctor Who - Bad Wolf / BBC Studios Productions / BBC One

  • Tîm sain Men Up - Quay Street Productions / Boom Cymru / BBC One

  • Tîm sain Wolf - Hartswood Films / APC Studios / BBC One

Drama Deledu

  • Casualty - BBC Studios / BBC One

  • Pren Ar Y Bryn - Fiction Factory Films / S4C

  • Steeltown Murders - Severn Screen / BBC One Wales

Awdur

  • Russell T Davies - Doctor Who - Bad Wolf / BBC Studios Productions / BBC One

  • Matthew Barry - Men Up - Boom Cymru / Quay Street Productions / BBC One

  • Megan Gallagher - Wolf - Hartswood Films / APC Studios / BBC One

Pynciau cysylltiedig