'Diolchgar bod ni gyd yn fyw' wedi tirlithriad

Mae dyn yn y gogledd yn dweud ei fod "yn lwcus eu bod yn fyw" yn dilyn tirlithiad dros y penwythnos.

Cafodd teulu Emyr Owens eu hachub o Lanarmon Dyffryn Ceiriog, Sir Wrecsam ddydd Sadwrn.

Am oddeutu 14:00 fe chwalodd y tirlithriad ffermdy Sarphle.

Mae dau dŷ ar y safle - yn yr un a chwalwyd roedd Lleucu, y ferch-yng-nghyfraith, a phump o blant.

"Gallwn fod wedi colli'r pump," meddai Emyr Owens sy'n byw drws nesaf i'r cartref a chwalwyd.

Dilynwch y diweddaraf yn fyw wrth i'r clirio barhau yn dilyn Storm Bert.