Crynodeb

  • Gwaith clirio yn parhau ddydd Llun wedi difrod Storm Bert

  • Pobl yn sôn am eu dicter ar ôl yr hyn maen nhw wedi ei ddisgrifio yw diffyg paratoi

  • Yng Nghwmtyleri, pobl wedi eu symud o gartrefi yn dilyn tirlithriad

  • AS Pontypridd yn galw am gymorth gan y llywodraeth i bobl yr ardal

  1. Rhybudd am drafferthion ar y rheilffyrddwedi ei gyhoeddi 10:36 Amser Safonol Greenwich

    Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud bod nifer o'u gwasanaethau yn wynebu oedi ddydd Llun.

    Y cyngor yw i deithwyr wirio y manylion diweddaraf am drenau.

    "Roedd fy nhrên i o Gaerdydd i Fangor wedi ei ganslo bore 'ma a bu'n rhaid i mi fynd mewn car," meddai un myfyriwr wrth siarad â Cymru Fyw.

    Mae eraill ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud eu bod yn cael trafferth teithio o Gaerdydd i Lundain.

    Dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod gwasanaethau rhwng Radyr a Threherbert, Merthyr Tudful a Radyr a Llanhilleth a Glyn Ebwy wedi eu gohirio oherwydd y llifogydd.

    Mae disgwyl i'r rhain eu gohirio am weddill y dydd. Mae gwasanaethau rhwng Amwythig a Chasnewydd wedi eu gohirio.

    Mae disgwyl i'r rhain barhau nes 12:00. Oherwydd tirlithriad, mae gwasanaethau Y Fenni a Henffordd wedi eu gohirio nes 11:00.

    Mae 'na oedi i wasanaethau rhwng Platfform 1 Aberdâr a Radur oherwydd llifogydd.

    Mae'r holl wybodaeth ddiweddar ynghylch y trafferthion i'w gweld yma. , dolen allanol

    TirlithriadFfynhonnell y llun, Network Rail
    Disgrifiad o’r llun,

    Tirlithriad yn disgyn ar reilffordd ger Pontypirdd

  2. Dinistr Cwmtyleri yn dod i'r amlwgwedi ei gyhoeddi 10:28 Amser Safonol Greenwich

    Ein gohebydd Alun Thomas sydd wedi bod yng Nghwmtyleri y bore 'ma i weld y dinistr.

    Mae nifer o deuluoedd wedi gorfod symud o'u cartrefi yn dilyn tirlithriad dros nos.

  3. Llanarmon Dyffryn Ceiriog: 'Gallwn fod wedi colli pump o blant'wedi ei gyhoeddi 10:16 Amser Safonol Greenwich

    Llanarmon
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe achosodd y tirlithriad ddifrod sylweddol i dalcen y ffermdy yn Llanarmon

    Bu'n rhaid achub deg o bobl o fferm yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog ddydd Sadwrn wedi tirlithriad sydyn.

    Mae'r teulu bellach yn cael lloches yn y pentref ac yn diolch i'r gymuned leol am bob neges, bwyd, dillad a chymorth.

    Dywedodd y ffermwr, Emyr Owens, a oedd yn y tŷ drws nesaf bod y difrod yn ddegau o filoedd o bunnau ac yn ei ddagrau dywedodd y gallai ei fod wedi "colli pump o'i wyrion bach".

    Y difrod ar ffermdy yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog
    Disgrifiad o’r llun,

    Y difrod ar ffermdy yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog

    difrod
  4. Rhybuddion llifogydd yn parhau mewn grymwedi ei gyhoeddi 10:07 Amser Safonol Greenwich

    Mae 10 o rybuddion am lifogydd, dolen allanol mewn grym am 10:00 fore Llun.

    Mae dros 30 o ysgolion yn siroedd y de ar gau ddydd Llun yn dilyn y llifogydd - ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Powys a Mynwy.

    Map rhybuddionFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
  5. Ceidwadwyr: 'Angen atebion gan y llywodraeth'wedi ei gyhoeddi 09:59 Amser Safonol Greenwich

    Wrth ymateb i Storm Bert dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies: "Mae'r lluniau ni wedi'u gweld yn ofnadwy ac rwy'n diolch i'r timau sydd wedi bod yn cynorthwyo busnesau a thrigolion.

    "Yn anffodus bu farw un dyn yng ngogledd Cymru.

    "Mae'n rhaid gofyn pam mai rhybudd melyn yn unig a roddwyd pan roedd y rhagolygon mor ddychrynllyd.

    "Hefyd o weld ardaloedd fel Pontypridd mae'n rhaid gofyn pam nad oes gwersi wedi'u dysgu.

    "Rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu atebion a chyllid i ddelio gydag efaith y llifogydd a sicrhau ein bod wedi paratoi'n well ar gyfer y tro nesaf pan fydd rhwybeth fel hyn yn digwydd eto."

    Brian Perry
    Disgrifiad o’r llun,

    Daeth cadarnhad ddydd Sul bod corff wedi ei ganfod wedi i'r heddlu apelio am help i ddod o hyd i Brian Perry

  6. Tirlithiad ger llinell Rheilffordd Mynydd Brycheiniogwedi ei gyhoeddi 09:50 Amser Safonol Greenwich

    Roedd tirlithriad ger Rheilffordd Mynydd Brycheiniog yn golygu bod yn rhaid canslo gweithgaredd gyda Siôn Corn ddydd Sul.

    Dywed Stuart Williams, rheolwr Rheilffordd Mynydd Brycheiniog ym Merthyr Tudful, ei fod wedi ei synnu bod "hanner yr arglawdd wedi ei golli" wrth ochr y llinell.

    Mae trenau stêm y rheilffordd yn rhedeg o Bant, dair milltir i'r gogledd o Ferthyr Tudful, i Dorpantau gan ddilyn rhan o lwybr gwreiddiol Rheilffordd Aberhonddu a Merthyr a gaeodd yn 1964.

    tirlithiadFfynhonnell y llun, Rheilffordd Mynydd Brycheiniog
  7. Y tywydd yn amharu ar y Ffair Aeafwedi ei gyhoeddi 09:43 Amser Safonol Greenwich

    Mae Storm Bert hefyd wedi cael effaith ar y Ffair Aeaf sy'n dechrau yn Llanelwedd heddiw - mae'r afon wedi gorlifo mewn mannau.

    llanelwedd
    llanelwedd
    llanelwedd
  8. Tirlithriad yn ardal Bwlch y Groeswedi ei gyhoeddi 09:32 Amser Safonol Greenwich

    Tirlithriad

    Mae tirlithriad wedi rhwystro ffordd gefn yn ardal Bwlch y Groes, ddim yn bell o Lyn Efyrnwy.

  9. Clwb Rygbi Coed-duon o dan ddŵrwedi ei gyhoeddi 09:27 Amser Safonol Greenwich

    Dyma'r olygfa yng Nglwb Rygbi Coed-duon.

    Roedd nifer wedi bwriadu mynd yno i gynnal digwyddiadau cyn y Nadolig ond maen nhw wedi gorfod canslo nifer ohonyn nhw.

    Coed-duon
  10. 'Teimlo cymaint dros fusnesau'wedi ei gyhoeddi 09:17 Amser Safonol Greenwich

    Mae Eurgain Haf yn byw yn lleol a bore 'ma dywedodd: “Daeth yna alwad am hen orchuddion clustogau er mwyn gwneud bagiau tywod achos doedd dim digon wedi cyrraedd ar y pryd - rhoddon ni neges ar Whatsapp y stryd ac oedd 'na bentwr tu allan i’r drws mewn pum munud.

    "Es i â rheiny lawr ac wedyn roedd 'na alwad wedyn am fopiau, bwcedi, offer glanhau, a rheiny’n dod o bob cwr i’r ganolfan hefyd – cymuned ar ei orau’n gwneud be allen nhw i helpu.

    “Dwi’n teimlo gymaint dros berchnogion y busnesau. Fues i lawr i Mill Street hefyd, achos mae dynes ar y stryd yn cadw siop yna ac o’n i isio gweld os allwn i helpu.

    "Roedd hi wedi bod yn ffodus achos roedd yr amddiffynfeydd llifogydd wedi dal, ond roedd yr olygfa o siop lyfrau Storyville yn dorcalonnus. Roedden nhw wedi colli gymaint o stoc, gyda bagiau bin llawn llyfrau newydd sbon wedi pentyrru tu allan i’r siop.

    "Y neges ydi cefnogwch fusnesau Pontypridd os da chi’n lleol, prynwch ar lein, yn enwedig yn y cyfnod ‘ma cyn y Nadolig.

    “Bydd yna gyfnod asesu rŵan i weld be di’r difrod a beth yw’r gost, ac i drio gwneud popeth allen nhw i wneud siŵr bod hyn ddim yn digwydd eto.”

    Eurgain
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Prif Lenor Eurgain Haf ym Mhontypridd fore Llun

  11. Alun Davies AS: Angen 'cydweithio fel cymuned'wedi ei gyhoeddi 09:12 Amser Safonol Greenwich

    Disgrifiad,

    Golygfeydd 'ofnadwy' yng Nghwmtyleri dros nos

    Yn siarad gydag Alun Thomas ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, dywedodd yr Aelod o'r Senedd Alun Davies bod angen sicrhau bod pobl yn teimlo'n saff yn eu cartrefi.

    “Mae’n ofnadwy gweld beth sydd wedi digwydd yma dros y penwythnos ac mae Huw Irranca Davies yma fel dirprwy Brif Weinidog i weld beth gall Llywodraeth Cymru wneud i gynnig cymorth i bobl Cwmtyleri a Chyngor Blaenau Gwent i sicrhau bod ni'n cydweithio fel cymuned i ddod dros beth sydd wedi digwydd.

    “Mae pobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi dros nos yn aros mewn gwestai ar hyn o bryd ac mae’r cyngor wedi delio gyda hynny.

    "Ond wrth gwrs mae pobl isie dod nôl i'w cartrefi nhw ac eisiau teimlo'n saff yn eu cartrefi nhw, a dyna beth sydd yn hollbwysig ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i bobl deimlo yn saff ble maen nhw yn byw, ac fyddwn ni yn edrych beth sydd wedi digwydd fan hyn, pam mae e wedi digwydd a sicrhau bod pobl yn gallu dychwelyd i’w cartrefi yn saff."

  12. Heledd Fychan AS: 'Y sefyllfa yn gwbl dorcalonnus'wedi ei gyhoeddi 09:05 Amser Safonol Greenwich

    Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Heledd Fychan AS, Aelod Canol De Cymru Plaid Cymru yn Senedd Cymru bod y sefyllfa yn "dorcalonnus".

    “I’r rhai hynny sydd wedi dioddef mae meddwl am y difrod hwnnw a sut maen nhw yn mynd ati, nifer o fusnesau hefyd wedi methu cael yswiriant yn dilyn Storm Dennis yn 2020 felly mae hi am fod yn eithriadol o bwysig bod yna gefnogaeth ar gael iddyn nhw.

    "Mae lot fawr o bryder am sut mae pobl am gael eu tai a’u busnesau wedi eu hatgywirio ac yn yr hir dymor ydi hyn yn mynd i fod yn risg parhaus rŵan, a pha gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw," meddai.

    Heledd
  13. Tirlithriad yng Nghwmtyleri dros noswedi ei gyhoeddi 08:57 Amser Safonol Greenwich

    Cwmtyleri

    Dyma'r olygfa yng Nghwmtyleri, Blaenau Gwent fore Llun, yn dilyn tirlithriad dros nos.

    Dywedodd y cyngor bod nifer o bobl wedi eu symud o'u cartrefi yn sgil y digwyddiad.

    Fe wnaeth Abbie Woolmer adael ei chartref pan ddigwyddodd y tirlithriad, gan ofni y byddai un arall.

    Dywedodd ei bod wedi gadael gyda'i phlant a mynd i aros gyda theulu: "Mae cymdogion wedi dweud wrtha i am aros 24 i 48 awr, ond does dim byd gan yr awdurdodau eto."

    Cwmtyleri
  14. 28 o ysgolion ar gauwedi ei gyhoeddi 08:54 Amser Safonol Greenwich

    Mae 28 o ysgolion ar draws Sir Caerffili a Sir Fynwy ar gau ddydd Llun yn dilyn y llifogydd.

    Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, am 06:00 bore dydd Llun, mae 2 rhybudd difrifol, dolen allanol o lifogydd mewn grym ar draws Sir Fynwy, gyda 22 rhybudd am lifogydd mewn sawl ardal arall ar draws Cymru.

  15. 'Digon o rybuddion', medd y Swyddfa Dywyddwedi ei gyhoeddi 08:50 Amser Safonol Greenwich

    Dywedodd Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ei fod wedi "rhyfeddu" mai dim ond rhybudd tywydd melyn oedd mewn grym ar ôl Storm Bert, gan ychwanegu bod disgwyl rhybudd oren.

    Mae'r Swyddfa Dywydd wedi dweud y bydd yna "asesiad llawn", ond bod digonedd o rybudd o flaen llaw am y storm gyda "nifer o rybuddion mewn lle".

    Andrew Morgan
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew Morgan (chwith) yn y gynhadledd ddydd Sul

  16. Dicter wedi 'diffyg paratoi'wedi ei gyhoeddi 08:48 Amser Safonol Greenwich

    Mae pobl yn ne Cymru wedi sôn am eu dicter ar ôl yr hyn maen nhw wedi ei ddisgrifio fel diffyg paratoi ar gyfer Storm Bert.

    Ym Mhontypridd yn Rhondda Cynon Taf, mae trigolion wedi dweud na chafodd gwersi eu dysgu o Storm Dennis, pan oedd rhannau helaeth o'r dref dan ddŵr yn 2020.

    Ponty
  17. Y gwaith clirio yn parhau wedi'r trafferthionwedi ei gyhoeddi 08:44 Amser Safonol Greenwich

    Mae'n ddiwrnod clirio ac asesu difrod wedi i Storm Bert daro Cymru dros y penwythnos.

    Y diweddaraf ar ein llif byw - arhoswch gyda ni

    Pontypridd
    Disgrifiad o’r llun,

    Pontypridd bore Llun