Diwrnod canlyniadau Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor
Fflur Rees Jones, Pennaeth Cynnorthwyol Coleg Meirion Dwyfor a Choleg Menai sy'n ymateb i'r canlyniadau lefel A.
Mae'r graddau uchaf ar gyfer Lefel A yng Nghymru wedi gostwng wedi i’r drefn farcio mwy hael ers y pandemig ddod i ben.
Roedd canran y graddau A ac A* yn 29.9% eleni, o'i gymharu gyda 34% yn 2023.
Mae’r canlyniadau’n agosach at lefel 2019 ac yn ôl Cymwysterau Cymru, sy'n goruchwylio'r arholiadau, mae’r canlyniadau’n rhan o’r “cam olaf wrth ddychwelyd yn raddol i brosesau cyn y pandemig”.