Graddau Safon Uwch yn is heb gefnogaeth ôl-Covid

disgyblion o Ysgol Gatholig St Joseph's ym Mhort Talbot
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion Ysgol Gatholig St Joseph ym Mhort Talbot wedi iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau bore 'ma

  • Cyhoeddwyd

Mae'r graddau uchaf ar gyfer Lefel A yng Nghymru wedi gostwng wedi i’r drefn farcio mwy hael ers y pandemig ddod i ben.

Roedd canran y graddau A ac A* yn 29.9% eleni, o'i gymharu gyda 34% yn 2023.

Mae’r canlyniadau’n agosach at lefel 2019 ac yn ôl Cymwysterau Cymru, sy'n goruchwylio'r arholiadau, mae’r canlyniadau’n rhan o’r “cam olaf wrth ddychwelyd yn raddol i brosesau cyn y pandemig”.

Derbyniodd myfyrwyr hefyd ganlyniadau ar gyfer arholiadau AS, BTec a chymwysterau eraill.

Roedd yna newidiadau i arholiadau yn 2022 a 2023 er mwyn adlewyrchu'r effaith gafodd y pandemig ar ddysgu.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Gyrfa Cymru eu bod yn gallu cynnig cymorth a chefnogaeth i bobl ifanc sy'n cael canlyniadau heddiw

Fe wnaeth Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, longyfarch disgyblion ledled Cymru a thra'n ymweld â Choleg Cambria yn Wrecsam, dywedodd: "Arholiadau eleni yw'r cam olaf wrth i ni ddychwelyd at y trefniadau a oedd ar waith cyn y pandemig.

"Eleni, am y tro cyntaf ers y pandemig, cynhaliwyd arholiadau ac asesiadau Safon Uwch a Safon Uwch Gyfrannol gyda'r un trefniadau â chyn y pandemig.

"Mae'r canlyniadau yn unol â'r hyn roedden ni'n gobeithio ei weld ac maen nhw'n weddol debyg i ganlyniadau cyn y pandemig.

"Dylai pob un ohonoch chi sy'n cael eich canlyniadau heddiw fod yn hynod falch o'r hyn rydych chi wedi'i gyflawni."

Dywedodd Cymwysterau Cymru bod hwn yn "lwybr 'nôl o ganlyniadau uwch yn ystod y pandemig".

Yn 2020 a 2021 cafodd arholiadau eu canslo ac fe gafodd graddau eu pennu gan athrawon.

Pan gafodd arholiadau eu cynnal eto yn 2022, cafodd cynnwys rhai cyrsiau eu cwtogi, ac yn 2023 cafodd gwybodaeth am yr hyn allai godi mewn papurau arholiad ei roi o flaen llaw i ysgolion.

Doedd yna ddim mesurau ychwanegol yn 2024.

Ond dywedodd Cymwysterau Cymru, pe bai perfformiad mewn unrhyw bwnc yn llawer is na chyn y pandemig, byddai "rhwyd ddiogelwch" wrth osod ffiniau graddau.

"Dyma'r flwyddyn gynta' i ni ddychwelyd i'r drefn asesu a gosod graddau arferol," eglurodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru.

Mae'n cydnabod bod y pandemig wedi amharu ar addysg plant sy'n sefyll arholiadau eleni.

Ond dywedodd ei bod yn bwysig i bobl ifanc, prifysgolion a chyflogwyr i'r system ddychwelyd i'r drefn.

"Mae wir yn bwysig bod gwerth yr un peth ar draws gwledydd Prydain i gyd fel bod gwerth Lefel A yng Nghymru'r un peth â gwerth Lefel A yng Ngogledd Iwerddon neu Loegr," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion Safon Uwch Ysgol Garth Olwg, Pentre'r Eglwys ger Pontypridd yn dathlu wedi i 83.7% o fyfyrwyr gael graddau A*-C

Mae nifer o fyfyrwyr BTec hefyd wedi derbyn canlyniadau ddydd Iau.

Mae'r cymwysterau yn rhoi pwyslais ar ddatblygu sgiliau gyrfa ac fel arfer mae yna lai o asesu trwy arholiad.

Wrth longyfarch y dysgwyr, dywedodd Mr Blaker: "Mae canlyniadau yn garreg filltir sylweddol ym mywydau dysgwyr, a bydd llawer yn edrych ymlaen at eu camau nesaf – boed hynny tuag at waith, prentisiaeth, neu addysg uwch.

"Rwy'n gobeithio y cawsoch y graddau yr oeddech yn gobeithio eu cael. Os na, peidiwch â phoeni. Mae llawer o wybodaeth a chymorth ar gael i chi."

Mathemateg yn boblogaidd

Dywedodd prif fwrdd arholi Cymru, CBAC, bod 3,700 o arholwyr wedi marcio dros filiwn o bapurau arholiad yr ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch, TGAU a galwedigaethol yr haf hwn.

Roedd 32,385 o gofrestriadau Safon Uwch ar gyfer haf 2024, 2.3% yn llai nag yn 2023 a 42,630 o gofrestriadau Uwch Gyfrannol.

Mathemateg, Bioleg a Seicoleg yw'r pynciau mwyaf poblogaidd o hyd.

Cymraeg Iaith welodd y cynnydd canran mwyaf mewn cofrestriadau ers 2023 er bod y niferoedd yn fach (fyny i 230 o 185).

Roedd y gostyngiadau mwyaf i Ddaearyddiaeth (1,040 o 1,285) a Sbaeneg (125 o 150).

Disgrifiad o’r llun,

Mae Amanda (yn y canol) yn mynd i Brifysgol Caerwysg i astudio meddygaeth ar ôl cael pedair A a B

Yn ôl data'r gwasanaeth mynediad i brifysgolion (UCAS) roedd llai o blant 18 oed o Gymru wedi gwneud cais ar gyfer addysg uwch eleni.

Mae'n bosib y bydd mwy yn derbyn lle yn ystod y broses glirio pan mae prifysgolion yn cynnig y llefydd sy'n weddill ar gyrsiau.

Dywedodd Gyrfa Cymru eu bod yn gallu cynnig cymorth a chefnogaeth i bobl ifanc sy'n cael canlyniadau.

"Gall rhai pobl gael eu llethu wrth wneud dewisiadau am eu gyrfaoedd yn y dyfodol neu efallai dydyn nhw ddim yn gwybod yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw," meddai Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru.

"Mae yna lwybr cywir ar gael i bawb," ychwanegodd.

Dadansoddiad Bethan Lewis, Gohebydd Addysg BBC Cymru:

Yn naturiol, dyw myfyrwyr yma yn Ysgol Gatholig St Joseph ym Mhort Talbot yn poeni dim am y darlun cenedlaethol – eu canlyniadau nhw a beth mae’n ei olygu am y camau nesaf yw’r peth pwysig.

Ond ers misoedd, mae penaethiaid arholiadau wedi bod yn paratoi ysgolion, colegau a'r cyhoedd am raddau is ar lefel Cymru-gyfan ar ôl hepgor y mesurau ychwanegol sydd wedi bod mewn lle ers 2020 i adlewyrchu tarfu’r pandemig.

Yn ôl y disgwyl, mae cyfran y graddau uchaf wedi gostwng ond mae nhw’n dal i fod yn uwch na'r blynyddoedd cyn 2020.

Un esboniad rhannol posib yw bod canlyniadau Uwch Gyfrannol (AS) llynedd – gafodd eu gosod o dan system fwy hael – yn cyfrannu 40% at y Lefel A terfynol eleni.

Does dim amheuaeth bod y pandemig wedi cael effaith ar addysg y to yma o fyfyrwyr hefyd ond mae gwleidyddion a rheoleiddwyr yn dweud bod angen mynd yn ôl i "normal" i sicrhau hyder bod gan raddau Cymru yr un gwerth a rhai yn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.