Oes mwy o eira ar y ffordd dros y ddyddiau nesaf?

Mae dros 150 o ysgolion ar gau ddydd Mawrth wedi i eira daro rhannau o Gymru.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn newydd am eira a rhew fydd mewn grym rhwng 00:00 a 12:00 ddydd Mercher.

Mae'n effeithio ar ardaloedd yn siroedd Gwynedd, Conwy, Dinbych, Y Fflint, Wrecsam, Powys, Caerfyrddin a Cheredigion.

Ond sut mae'r rhagolygon yn edrych dros y dyddiau nesaf? Y cyflwynydd tywydd, Branwen Gwyn, sydd â'r ateb.