150 o ysgolion ar gau a rhybudd teithio wedi eira dros nos
- Cyhoeddwyd
Mae dros 150 o ysgolion wedi bod ar gau ddydd Mawrth wedi i eira daro rhannau o'r gogledd a'r canolbarth.
Yn siroedd Wrecsam a'r Fflint mae mwyafrif yr ysgolion sydd wedi cadarnhau na fyddan nhw ar agor ddydd Mawrth, gyda niferoedd llai ar gau yn siroedd Powys, Dinbych a Blaenau Gwent.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhagweld bod mwy o dywydd garw i ddod hefyd, gyda dau rybudd gwahanol mewn grym rhwng nos Fawrth a diwedd y bore ddydd Mercher.
Mae'r cyntaf o'r rheiny - rhybudd melyn am eira a rhew - mewn grym ar gyfer y mwyafrif o'r wlad ers 18:00 nos Fawrth tan 10:00 fore Mercher.
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2024
Mae rhybudd melyn am rew yn unig hefyd wedi dod i rym ers 17:00 ddydd Mawrth ac yn para tan 10:00 ddydd Mercher.
Mae'n effeithio ar ardaloedd yn siroedd Pen-y-bont, Caerffili, Caerdydd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Powys, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Bro Morgannwg a Wrecsam.
Gwiriwch a oes ysgolion ar gau yn eich ardal chi:
Dywedodd Dave Hughes, arweinydd Cyngor Sir y Fflint, fod dydd Mawrth wedi bod yn "ddiwrnod hynod o brysur" a'i bod yn rhy fuan eto i ddweud a fydd ysgolion y sir ar agor ddydd Mercher.
Mae'n annog pobl i edrych ar wefan y cyngor yn y bore i weld a yw eu hysgol ar agor ai peidio.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhybuddio bod yr amodau gyrru yn hynod o wael ym Mhowys ac yng ngogledd Ceredigion o ganlyniad i'r eira a'r rhew.
Maen nhw'n cynghori pobl ond i deithio os yw'r daith yn angenrheidiol.
Mae un o ffyrdd Powys - yr A44 - wedi bod ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng cyffordd Llangurig yr A470 a'r B4343 (Dyffryn Castell) oherwydd y tywydd gaeafol.
Roedd yna drafferthion ar rai o ffyrdd y gogledd-ddwyrain dros nos, a bu'n rhaid cau'r A483 yn ardal Gresffordd am gyfnod tan yr oriau mân wedi i ddwy lorri blygu yn ei hanner ar y lôn yn sgil yr amodau.
Fe gafodd yr heddlu eu galw hefyd nos Lun i helpu gyrwyr yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A55 rhwng Treffynnonn a Dobs Hill yn Sir Y Fflint.
Er bod y prif ffyrdd ar agor, mae'r heddlu'n cynghori'r cyhoedd i yrru "yn unol â’r amodau".
Fe allwch weld y rhybuddion traffig diweddaraf ar wefan Traffig Cymru, dolen allanol.
Dywedodd Cynghorydd Wrecsam, Terry Evans, fod eu criwiau graeanu wedi bod allan ers 18:00 nos Lun "er mwyn sicrhau fod y prif ffyrdd mor glir â phosib".
Ychwanegodd bod y criwiau yn parhau i geisio clirio'r ffyrdd heddiw tra bod yr eira yn parhau i ddisgyn.
Dywedodd fod y criw wedi clirio 20 o goed a oedd wedi disgyn, ac wedi helpu sawl car a lori a aeth yn sownd yn yr eira dros nos.
Mae Cyngor Sir Ddinbych hefyd wedi dweud bod eu timau priffyrdd allan yn graeanu er mwyn sicrhau bod y lonydd yn y cyflwr gorau posib.
Roedd y Swyddfa Dywydd yn rhagweld y byddai hyd at 20cm o eira ar dir uchel dros nos Lun.
Ond bellach mae amryw o rybuddion mewn grym ar gyfer mwyafrif helaeth Cymru dros y deuddydd nesaf.
Does dim disgwyl cymaint o eira y tro hwn, ond mae 'na rybudd am amodau gyrru anodd ac oedi ar y ffyrdd mewn mannau.
Gallai'r tywydd oer gael effaith hefyd ar drafnidiaeth gyhoeddus a chyflenwadau trydan.
Yn ogystal, mae gofyn i bobl i fod yn ofalus - yn enwedig ar balmentydd, ffyrdd a llwybrau beic sydd heb eu graeanu.