Ffarwel swynol i AS newydd Caerfyrddin

Daeth llu o gefnogwyr Ann Davies i orsaf drenau Caerfyrddin i ffarwelio â hi cyn ei thaith gyntaf i Lundain fel Aelod Seneddol.

Cafodd Ann Davies ei hethol i gynrychioli sedd Caerfyrddin yn yr etholiad cyffredinol wythnos diwethaf.

Ms Davies yw'r ail aelod Plaid Cymru i gynrychioli'r ardal, 58 mlynedd ar ôl i Gwynfor Evans gael ei ethol i gynrychioli Caerfyrddin ym 1966.

Fe wnaeth Ms Davies ddweud gair wrth y rhai oedd wedi ymgasglu yn yr orsaf, cyn gadael ar y trên tua Llundain i gyfeiliant Mae Hen Wlad Fy Nhadau.