Caernarfon: Pryder cymydog wedi i adeilad ddymchwel
Mae perchennog caffi yng Nghaernarfon yn dweud ei bod yn pryderu am ei busnes wedi i ran o'r adeilad drws nesaf ddymchwel nos Sul.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw toc cyn 21:00 wedi i ran o gefn hen siop sy'n wag ers sbel ddymchwel ar Stryd y Bont Bridd.
Does dim adroddiadau fod neb wedi cael anaf, ond bu'n rhaid i bobl symud o adeiladau cyfagos am gyfnod ac roedd sawl ffordd ar gau.
"Doeddan nhw ddim yn siŵr pa mor ddrwg oedd o i ddechrau ond aeth nhw rownd yr adeilad a wnaeth nhw ddeud fod y wal wedi disgyn," meddai Gaynor Morris, sy'n rhedeg Caffi Cei.
"Ma'r cefn dal wedi cau so ma'n amlwg fod o'n beryg a bod wbath angen ei wneud.
"'Dan ni ddim yn gwbod be sy'n mynd i ddigwydd nesaf, os ma'n disgyn mwy... Cartref ni ydi o hefyd.
"'Dan ni just isio gwbod lle da ni'n sefyll fel busnes."