'Pryder sylweddol' wedi i adeilad ddymchwel yng Nghaernarfon

Disgrifiad,

Mae'r sefyllfa yn bryder i Gaynor Morris, sy'n rhedeg Caffi Cei, drws nesaf i'r adeilad sydd wedi dymchwel yn rhannol, ac yn byw uwchben y caffi

  • Cyhoeddwyd

Mae ffyrdd bellach wedi eu hailagor yng Nghaernarfon ar ôl i adeilad ddymchwel nos Sul, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.

Cafodd gwasanaeth tân ac achub y gogledd eu galw toc cyn 21:00 nos Sul wedi i adeilad ddymchwel ar Stryd y Bont Bridd.

Does dim adroddiadau fod neb wedi eu hanafu, ond bu'n rhaid i bobl symud o'u cartrefi ger y digwyddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod wedi gofyn i berchnogion yr adeilad - oedd yn wag ar y pryd - i gwblhau gwaith adfer fel mater o frys.

Wedi cyfnod ar gau dros nos, mae Stryd y Bont Bridd a Stryd y Goron bellach ar agor ond mae Twnnel Caernarfon yn parhau i fod ar gau wrth i'r Cyngor gynnal asesiadau pellach.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle tua 21:00 nos Sul

Dywedodd y cynghorydd Cai Larsen o ward Canol Tref Caernarfon fod "pryder sylweddol" yn dilyn y digwyddiad.

"Fedra ni fod yn ddiolchgar iawn does neb wedi dod i niwed," meddai.

"Fysa'r adeilad yma heb ddod i lawr oni bai ei fod o mewn cyflwr gwael iawn ac mae nifer o adeiladau erill yng nghanol tref Caernarfon mewn cyflwr tebyg.

"Os fyswn i'n rhentu siop yng nghanol Caernarfon mi fyswn i braidd yn bryderus."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r lôn sy'n mynd trwy dwnnel canol Caernarfon yn mynd heibio cefn yr adeilad

Roedd Gaynor Morris, sy'n rhedeg Caffi Cei gyda'i phartner, ar ei ffordd yn ôl i Gaernarfon pan welodd hi fod y ffyrdd o gwmpas yr adeilad drws nesaf ar gau.

"Oedden ni'n dod adra ar ôl bod i ffwrdd dros Dolig ac oedd yr heddlu a'r pobl tân yma.

"Doedd nhw ddim yn siŵr pa mor ddrwg oedd o i ddechrau ond aeth nhw rownd yr adeilad a wnaeth nhw ddeud fod y wal wedi disgyn.

"Dywedodd nhw ella fysa ni'n goro cael ein evacuatio ond ma raid oedd o ddim mor ddrwg a hynna... a tua 23:30 oedden nhw wedi mynd.

"Ond ma'r cefn dal wedi cau so ma'n amlwg fod o'n beryg a bod wbath angen ei wneud."

Dywedodd Ms Morris ei bod hi'n pryderu am yr effaith ar ei busnes.

"'Da ni ddim yn gwbod be sy'n mynd i ddigwydd nesaf, os ma'n disgyn mwy... Cartref ni ydi o hefyd.

"Nath nw ddim deud i ni beidio agor heddiw, nath nw ddim deud ddim byd i ni neithiwr - 'da ni ddim callach. 'Da ni just isio gwbod lle da ni'n sefyll fel busnes."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr adeilad yn wag pan gwympodd yr estyniad ar y cefn, meddai Cyngor Gwynedd

Estyniad ar gefn adeilad ar Y Bont Bridd wnaeth ddymchwel nos Sul, meddai'r Cyngor.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Cyfrifoldeb perchennog unrhyw adeilad yw sicrhau ei fod yn ddiogel. Ond wedi dweud hynny, mae gan Gyngor Gwynedd – fel unrhyw awdurdod lleol arall – bwerau statudol i gymryd camau yn erbyn perchnogion strwythurau peryglus, yn unol ag Adrannau 77 a 78 o'r Ddeddf Adeiladau 1984.

"Yn yr achos penodol hwn yng Nghaernarfon, mae swyddog o Wasanaeth Rheolaeth Adeiladu'r Cyngor wedi ymweld â'r safle a chynhaliwyd adolygiad cychwynnol o'r adeilad. Oherwydd cyflwr yr adeilad a'r bygythiad posib i iechyd a diogelwch y cyhoedd, cymerwyd camau brys er mwyn sefydlogi'r safle a diogelu'r cyhoedd.

"Mae'r Cyngor wedi bod mewn cyswllt â pherchenogion yr adeilad ac wedi gofyn iddynt gynnal asesiad manwl o'i gyflwr strwythurol. Gofynnir i'r perchennog wneud unrhyw waith adfer fel mater o frys. Rydym yn fodlon bod perchennog yr eiddo yn gwneud trefniadau addas gyda chontractwr, gyda'r broses hon eisoes ar y gweill.

"Mae diogelwch y cyhoedd yn flaenoriaeth i ni a byddwn yn parhau i weithio gyda'r perchnogion i sicrhau bod yr adeilad yn saff."