'Mae nifer o dai yn dal heb bwer' ar ôl Storm Darragh

Mae 70,000 o gartrefi yng Nghymru yn parhau heb drydan ddydd Sul, wedi i Storm Darragh achosi dinistr a thrafferthion.

Mae cwmnïau trydan yn dweud eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i adfer cyflenwadau ar ôl i'r gwyntoedd godi i hyd at 93mya, ond mae 'na rybudd y bydd rhai heb drydan tan ddydd Llun.

Mae 'na gymorth brys ar gael i bobl fregus mewn rhai ardaloedd sydd heb bwer.

Yn ôl arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, roedd 250 o alwadau i ddweud bod coed wedi syrthio ar ffyrdd a dywedodd bod deg ffordd yn parhau ynghau yn y sir wrth iddyn nhw barhau i glirio'r difrod.

Eglurodd y Cynghorydd Darren Price bod "nifer o dai yn dal heb bwer, ond mae cymunedau wedi bod yn dod at ei gilydd er mwyn helpu".