Storm Darragh: Dros 66,000 o gartrefi heb drydan

Coeden wedi dod lawr ar un o gerbydau’r cyngor yn ardal Lledrod, CeredigionFfynhonnell y llun, Geraint Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Coeden wedi dod lawr ar un o gerbydau'r cyngor yn ardal Lledrod, Ceredigion

  • Cyhoeddwyd

Mae 66,500 o gartrefi yng Nghymru yn parhau heb drydan brynhawn Sul, wedi i Storm Darragh achosi dinistr a thrafferthion.

Mae cwmnïau trydan yn dweud eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i adfer cyflenwadau ar ôl i'r gwyntoedd godi i hyd at 93mya, ond mae 'na rybudd y bydd rhai heb drydan tan nos Lun.

Mae 'na gymorth brys ar gael i bobl fregus mewn rhai ardaloedd sydd heb bwer.

Yn ôl National Grid, mae 48,000 o gartrefi a busnesau heb drydan yn y de, y gorllewin a'r canolbarth.

Yn y gogledd a'r canolbarth, mae cwmni SP Manweb yn dweud bod y storm wedi effeithio ar dros 86,000 o'u cwsmeriaid yno a bod tua 18,500 o gartrefi a busnesau yn dal i fod heb bwer am 16:30 ddydd Sul.

Yn y cyfamser, mae un rhybudd llifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol - a hynny ar hyd rhannau o Afon Dyfrdwy ger Llangollen.

Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion yn clirio coed oddi ar ffordd yn Llanddowror, Sir Gaerfyrddin

Mae'r difrod gafodd ei achosi gan y storm yn dal i effeithio ar deithwyr, gyda nifer o ffyrdd wedi cau a gwasanaethau trên wedi eu canslo.

Mae ffordd yr A487 rhwng Machynlleth a Dolgellau wedi cau drwy'r penwythnos yn dilyn tirlithriad ger Corris.

Yn ôl cwmni Stena Line mae'r storm yn effeithio ar wasanaethau rhwng Caergybi a Dulyn yn Iwerddon, a hefyd rhwng Abergwaun a Rosslare.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Uwchradd Penarlâg
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ysgol Uwchradd Penarlâg yn Sir y Fflint ynghau ddydd Llun wedi i'r storm ddifrodi'r adeilad

Yng Ngwynedd, bydd Ysgol Botwnnog ynghau ddydd Llun "yn dilyn archwiliad diogelwch o safle'r ysgol", tra bod Ysgol Crud y Werin, Aberdaron hefyd wedi cyhoeddi eu bod ar gau ddydd Llun oherwydd problemau gyda'r cyflenwad trydan.

Fe fydd Ysgol Uwchradd Penarlâg yn Sir y Fflint hefyd ar gau wedi i ran o'r adeilad ddymchwel dros y penwythnos.

Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn parhau ar gau ddydd Llun.

Daeth rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am wyntoedd cryfion i ben am 18:00 nos Sul.

Ffynhonnell y llun, Sara Gibson
Disgrifiad o’r llun,

Trampolin wedi chwythu o ardd ym Mhenrhyncoch, Ceredigion

Un sydd wedi bod yn helpu i glirio'r difrod yn Sir Gaerfyrddin ydi Alan Morris, sy'n ffermwr o Landdowror.

Dywedodd wrth BBC Cymru ei fod yn credu mai'r gwyntoedd nos Wener oedd y rhai cryfaf yn yr ardal ers hanner canrif.

"Neithiwr, o'n i'n styc ar y fferm - o'n i ddim yn gallu mynd mas na fewn."

Mae'n dweud ei fod yn "eitha nerfus... chi byth yn gwybod be alle ddigwydd ar fferm a ma' damweiniau'n gallu digwydd yn y tywydd 'ma."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alan Morris ei fod yn sownd ar ei fferm yn Sir Gaerfyrddin nos Sadwrn

Yn ôl arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, roedd 250 o alwadau i ddweud bod coed wedi syrthio ar ffyrdd a dywedodd brynhawn Sul bod 10 ffordd yn parhau ynghau yn y sir wrth iddyn nhw barhau i glirio'r difrod.

Eglurodd Darren Price bod "nifer o dai yn dal heb bŵer, ond mae cymunedau wedi bod yn dod at ei gilydd er mwyn helpu".

Diolchodd hefyd i'r timau gofal cymdeithasol am fynd at yr henoed i sicrhau bod y gefnogaeth angenrheidiol yno.

Yn ôl Cyngor Caerdydd, dyma'r "nifer fwyaf o ddigwyddiadau mae'r cyngor wedi gorfod ymateb iddyn nhw yn ystod un storm am dros 20 mlynedd".

Dywedodd llefarydd eu bod nhw wedi ymateb i dros 130 o ddigwyddiadau o goed yn syrthio a difrod yn sgil y storm ac y bydd y gwaith clirio yn parhau ddydd Sul.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Gwirfoddolwyr yn helpu gyda'r gwaith clirio yn Llanfair-ym-Muallt

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod "yn ymwybodol o nifer sylweddol o bobl yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion a Phowys oedd heb drydan dros nos".

"Er mwyn helpu'r rheiny sydd ei angen fwyaf, rydyn ni'n gofyn i bobl gysylltu â ni os ydyn nhw angen help ar frys drwy ffonio 101.

"Rydyn ni hefyd yn gofyn i bobl yn ein cymunedau i gysylltu gyda theulu a chymdogion bregus i weld os ydyn nhw angen cymorth."

Prydau poeth i bobl sydd heb drydan

Wrth geisio adfer y pwer, mae SP Manweb yn cynnig prydau poeth o ganolfan yng Ngwalchmai ar Ynys Môn i gwsmeriaid sydd wedi colli cyflenwad ac yn cydweithio gyda'r Groes Goch i gynnig cymorth.

Maen nhw hefyd yn dweud y bydd bwyd poeth a llety'n cael ei gynnig ar sail anghenion cwsmeriaid ac y byddan nhw'n gweithio gyda'u partneriaid i gynnig cefnogaeth.

Dywedodd Cyfarwyddwr SP Manweb, Liam O'Sullivan "bod yr amodau'n dal i fod yn heriol iawn".

"I'r rheiny sydd heb bwer, rydyn ni'n gwneud popeth allwn ni i adfer y cyflenwad pan fo'r amodau'n caniatau i ni wneud hynny."

Ar un adeg ddydd Sadwrn, roedd dros 100,000 o gartrefi heb drydan.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd coeden enfawr yn dal i fod yng nghanol ffordd yn Aberteifi brynhawn Sul

Mae holl ganolfannau hamdden Sir Benfro, oni bai am Abergwaun, yn agored tan 21:00 heno i gynnig lle cynnes i bobl sydd heb drydan.

Mae modd i bobl gael diodydd cynnes, dŵr poeth a defnyddio'r cawodydd.

Dywedodd Cyngor Ceredigion hefyd y bydd canolfannau hamdden Aberteifi a Phlascrug Aberystwyth ar agor heddiw tan 22:00 ar gyfer aelodau'r cyhoedd "sydd am alw heibio, neu am aros er mwyn cadw'n gynnes, cael cawod neu wefru ffonau symudol".

Ym Môn, mae'r cyngor sir yn annog pobl i fod yn amyneddgar wrth i waith glanhau yn dilyn Storm Darragh barhau.

Mae nifer o ffyrdd yn parhau i fod ar gau ar ôl i wyntoedd cryf iawn ddod â dros 40 o goed i lawr sy'n golygu bod "y gwaith glanhau yn gymhleth ac yn mynd i gymryd dyddiau i'w gwblhau".

'Y gwaith clirio ymhell o fod ar ben'

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Gary Pritchard ei fod yn ddiolchgar "i'r gwirfoddolwyr, gan gynnwys ffermwyr, trigolion a chymunedau, sydd wedi helpu i glirio'r ffyrdd dros y 24 awr ddiwethaf."

"Mae'r gwaith ymhell o fod ar ben, a byddwn yn gofyn yn garedig i drigolion Môn fod yn amyneddgar gyda ni wrth i'r gwaith glanhau fynd yn ei flaen heddiw."

Ychwanegodd bod "adnoddau o dan bwysau, a bydd yn rhaid iddyn nhw flaenoriaethu ailagor ffyrdd o ran eu pwysigrwydd a'u diogelwch."

Ffynhonnell y llun, Jonathan Rees
Disgrifiad o’r llun,

Difrod i Eglwys babyddol Pentre yn Mochdre ym Mhowys

Ar raglen Bore Sul BBC Radio Cymru, dywedodd Sian Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru: "Er bod y glaw wedi pasio, mae'r afonydd yn dal yn uchel, a be welwn ni hefyd ydy bod yr afonydd sydd bellach draw i'r dwyrain - yr Wysg, yr hafren a'r dyfrdwy - mae'r rheiny'n codi'n arafach na rhai o'r afonydd yn y cymoedd a'r gogledd-orllewin.

"Ella gwelwn ni rheiny'n codi fwy dros yr oriau a'r ychydig dyddiau nesa 'ma, ac wedyn mae'n bwysig iawn i bobl fod yn andros o wyliadwrus o gwmpas afonydd, er bod y glaw wedi pasio, ac i gymryd sylw o unrhyw rybuddion llifogydd sydd mewn grym."

Pynciau cysylltiedig