Chwe Gwlad: 'Angen adeiladu ar y perfformiad yn erbyn Iwerddon'
Mae clo Cymru, Teddy Williams yn dweud bod angen iddyn nhw "gymryd y perfformiad i'r lefel nesaf" os ydyn nhw am ennill yn erbyn yr Alban yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.
Er eu bod nhw bellach wedi colli 15 gêm brawf yn olynol, mi oedd y perfformiad yn y golled yn erbyn Iwerddon yn eu gêm ddiwethaf yn un llawer mwy calonogol.
Honno oedd gêm gyntaf Matt Sherratt wrth y llyw fel prif hyfforddwr dros dro Cymru yn dilyn ymadawiad Warren Gatland.
Mae Williams wedi canmol Sherratt am ei gyfraniad i "siâp ymosodol" y tîm.