Perfformiad calonogol ond Cymru'n colli yn erbyn Iwerddon

- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi colli eu trydedd gêm o dair ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni ar ôl i Iwerddon sicrhau buddugoliaeth ddramatig yng Nghaerdydd.
Er gwaetha'r perfformiad calonogol, mae'r golled o 27-18 yn golygu bod Cymru bellach wedi colli 15 gêm brawf o'r bron.
Dyma oedd gêm gyntaf y prif hyfforddwr dros dro, Matt Sheratt wrth y llyw yn dilyn ymadawiad Warren Gatland.
Fe fydd Cymru yn wynebu yr Alban oddi cartref yn eu gêm nesaf ar 8 Mawrth, cyn croesawu Lloegr i Stadiwm Principality ar 15 Mawrth.

Wythwr Iwerddon, Jack Conan yn rhoi Iwerddon ar y blaen
Roedd Sherratt wedi gwneud wyth newid i'r tîm gollodd yn erbyn yr Eidal bron i bythefnos yn ôl - gydag Ellis Mee yn chwarae ei gêm gyntaf dros Gymru, a Gareth Anscombe a Max Llewellyn yn dychwelyd i'r tîm.
Er i Gymru geisio ymosod o'r dechrau, yr ymwelwyr aeth ar y blaen yn y seithfed munud diolch i gais gan yr wythwr Jack Conan.
Doedd amddiffyn Cymru methu ymdopi â'r pwysau wrth i Iwerddon ailgylchu'r bêl yn sydyn ar ôl ennill tafliad o'r lein pum metr o'r llinell gais.
Parhau i bwyso wnaeth y Gwyddelod gyda'u chwarae cyflym yn llwyddo i ganfod bylchau yn amddiffyn y tîm cartref, cyn i Sam Prendergast ychwanegu triphwynt drwy gic gosb wedi 20 munud.
Fe darodd Cymru 'nôl drwy gic Gareth Anscome dau funud yn ddiweddarach gyda'r maswr yn ei gwneud hi'n 3-10.

Y capten Jac Morgan wnaeth roi Cymru ar y blaen cyn yr egwyl
Fe wnaeth Cymru barhau i ddangos rhywfaint o sbarc ymosodol, a bron iddyn nhw sgorio cais ardderchog yn dilyn gwaith gwych gan Tom Rogers a Jac Morgan, ond fe aeth y bêl ymlaen o ddwylo'r mewnwr, Tomos Williams.
Daeth hwb i Gymru gyda phum munud yn weddill o'r hanner cyntaf wrth i Garry Ringrose dderbyn cerdyn melyn am dacl uchel ar Ben Thomas.
Fe ychwanegodd Anscombe driphwynt arall gyda'i droed, ac yn dilyn adolygiad fe gafodd cerdyn melyn Ringrose ei ddyrchafu i gerdyn coch - oedd yn golygu y byddai'n methu 20 munud o'r gêm yn hytrach na 10.
Ar ôl dod yn agos sawl tro, y capten Jac Morgan lwyddodd yn y diwedd i groesi'r gwyngalch, cyn i Anscombe ei gwneud hi'n 13-10 i Gymru ar yr egwyl.

Fe sgoriodd Rogers ei gais rhyngwladol cyntaf ar ddechrau'r ail hanner
Parhau wnaeth momentwm Cymru wedi'r egwyl ac yn dilyn rhediad gan Blair Murray fe ledodd y cefnwr y bêl allan at Tom Rogers i groesi yn wych yn y gornel.
Dyma oedd cais rhyngwladol cyntaf yr asgellwr ifanc. Doedd Anscombe methu ymestyn y fantais gyda'i gic.
Fe darodd y Gwyddelod yn ôl drwy gic gosb Prendergast ac yna daeth cais i'r ymwelwyr gyda 55 munud ar y cloc i unioni'r sgôr.
Fe giciodd Gibson-Park y bêl yn uchel tua'r asgell, ac fe darodd Lowe y bêl yn ôl i gyfeiriad Jamie Osborne a lwyddodd i sgorio'r cais.

Jamie Osborne yn dathlu sgorio ail gais y Gwyddelod
Fe newidiodd patrwm y chwarae unwaith eto wedi ail gais yr ymwelwyr, a'r Gwyddelod aeth yn eu blaenau i reoli'r chwarae.
Fe ychwanegodd Sam Prendergast chwe phwynt arall o giciau cosb i roi'r fantais i Iwerddon ond roedd Cymru dal o fewn trosgais o gipio'r fuddugoliaeth.
Bron i'r cais yna gyrraedd gydag wyth munud yn weddill wrth i Ellis Mee daro'r bêl ymlaen o'i ddwylo yn y gornel.
Gyda blinder chwaraewyr Cymru yn dechrau dangos, fe gafodd Iwerddon gic gosb arall gyda dau funud yn weddill ac roedd Prendergast yn gywir unwaith eto.
Mae buddugoliaeth Iwerddon yn golygu eu bod nhw wedi ennill y goron driphlyg eleni.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd11 Chwefror