Dewi Lake: "Mae'n bwysig i ni ennill"

Mae’r bachwr Dewi Lake yn cydnabod bod angen buddugoliaeth ar Gymru ar ôl colli saith gêm o’r bron.

Lake oedd capten Cymru yn y golled 41-13 yn erbyn De Affrica brynhawn Sadwrn yn Twickenham sy’n golygu nad yw Cymru wedi ennill ers curo Georgia yn ystod Cwpan y Byd llynedd.

Bydd tîm Warren Gatland nawr yn mynd ar daith i Awstralia i wynebu’r Wallabies mewn dwy gêm brawf ar Orffennaf 6 ac 13.

Mwy yma.