Siom i Gymru yn erbyn De Affrica
- Cyhoeddwyd
Colli oedd hanes Cymru yn erbyn pencampwyr y byd, De Affrica mewn gêm arbrofol yn Twickenham brynhawn Sadwrn.
Hon oedd gêm gyntaf tîm Warren Gatland ers iddyn nhw gael y llwy bren yn y Chwe Gwlad eleni.
Sgoriodd De Affrica bum cais yn ystod y gêm.
Fe ildiodd Cymru ddau gais a chael dau gerdyn melyn yn ystod 15 munud cynta'r gêm.
Fe sgoriodd Jesse Kriel o Dde Affrica gais yn y munudau cyntaf, cyn i Gymru sgorio triphwynt gyda chic gosb.
Bu bron i Evan Roos sgorio cais, cyn cael ei daclo gan y Cymro Rio Dyer, gafodd gerdyn melyn.
Aeth Cymru wedyn lawr i 13 dyn wrth i Aaron Wainwright gael ei anfon i'r gell gosb gyda cherdyn melyn.
Cafodd De Affrica gais cosb gan godi'r sgôr i 14-3 ac er bod cyfle i Gymru sgorio pwyntiau, fe fethodd Sam Costelow gic gosb.
Ond er bod Cymru lawr i 13 dyn, wnaethon nhw ddim ildio yr un pwynt.
Daeth hwb i Gymru wrth i Dewi Lake fynd heibio Faf de Klerk a sgorio eu hunig cais o'r gêm.
Pwynt oedd rhwng Cymru a De Affrica wrth i Costelow sgorio cic gosb.
Bu bron i Gymru sgorio cais arall ym munudau ola'r hanner cyntaf wrth i Liam Williams basio'r bêl i Cameron Winnett ond cafodd y bêl ei tharo ymlaen.
Y sgôr ar yr hanner oedd De Affrica 14-13 Cymru.
Ond roedd 'na ddechrau siomedig i Gymru yn ystod deg munud cynta'r ail hanner wrth i Makazole Mapimpmi sgorio cais, cyn i Jordan Hendrikse sgorio cic gosb.
Daeth Cymru'n agos at gael cais ond doedd dim delwedd glir o'r bêl yn croesi'r llinell.
Sgoriodd De Affrica eu pedwerydd cais wrth i Bongi Mbonambi groesi'r llinell cyn i Edwill van der Merwe sgorio cais arall.
Y sgôr terfynol oedd De Affrica 41-13 Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2024