Dafydd Elis-Thomas wedi 'estyn cyfeillgarwch i bron pob plaid'
Mae'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas - un o ffigyrau gwleidyddol mwyaf blaenllaw a lliwgar Cymru dros yr hanner canrif ddiwethaf - wedi marw yn 78 oed.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan ei fod yn "ysbrydoliaeth" i wleidyddion o bleidiau gwahanol.
"Ma' 'na le wastod i gael cyfeillgarwch tu fewn i'r byd gwleidyddol ac 'oedd e'n estyn y cyfeillgarwch yna i bron pob plaid.
"Dwi'n meddwl bod y cyfraniad bod e' 'di 'neud i'n gwlad ni yn aruthrol.
"Ond hefyd mae'n rhaid cofio am y person - y cyfraniad 'naeth e i'r bobl o'i gwmpas e, i bob un daeth i mewn i gysylltiad ag e.
"Mae heddiw yn ddiwrnod trist iawn i'n gwlad ni," meddai.