Mam â chanser: Dwi'n drist iawn bod triniaeth ddim ar gael
Mae mam i dri sydd â chanser y fron eilaidd, a fyddai’n methu cael cyffur arbennig yng Nghymru oherwydd y gost, yn dweud na ddylid rhoi pris ar fywyd unrhyw un.
Fe gafodd Becky Quayle, 39 o Fae Cinmel, Sir Conwy, ddiagnosis o ganser y fron yn 2022, ond mae’r canser wedi lledu i’w nodau lymff.
“Dwi dal ddim yn credu bod o’n digwydd. Dwi’n byw mewn bubble,” meddai.
Mae’n dweud y gallai cyffur Enhertu, sy’n gallu rhoi tua chwe mis yn ychwanegol i gleifion â math penodol o ganser eilaidd, weithio fel triniaeth iddi yn y dyfodol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai canser yw un o’u blaenoriaethau a’u bod yn dibynnu ar gyngor annibynnol NICE