Ddylen ni ddim rhoi pris ar fywyd neb - mam â chanser

Disgrifiad,

Cafodd Becky Quayle ddiagnosis yn wreiddiol yn 2022

  • Cyhoeddwyd

Mae mam i dri sydd â chanser y fron eilaidd, a fyddai’n methu cael cyffur arbennig yng Nghymru oherwydd y gost, yn dweud na ddylid rhoi pris ar fywyd unrhyw un.

Fe gafodd Becky Quayle, 39 o Fae Cinmel, Sir Conwy, ddiagnosis o ganser y fron yn 2022, ond mae’r canser wedi lledu i’w nodau lymff.

“Dwi dal ddim yn credu bod o’n digwydd. Dwi’n byw mewn bubble,” meddai.

Mae’n dweud y gallai cyffur Enhertu, sy’n gallu rhoi tua chwe mis yn ychwanegol i gleifion â math penodol o ganser eilaidd, weithio fel triniaeth iddi yn y dyfodol.

Fe gafodd y cyffur glod mawr yn y byd meddygol, ond dydy’r driniaeth ddim ar gael drwy’r GIG yng Nghymru oherwydd cyngor y corff iechyd NICE ynghylch y gost.

Dydy'r cyffur ddim ar gael yn Lloegr na Gogledd Iwerddon chwaith, ond mae ar gael yn Yr Alban ac yn nifer o wledydd Ewrop, ac mae elusen Breast Cancer Now wedi beirniadu’r penderfyniad.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai canser yw un o’u blaenoriaethau a’u bod yn dibynnu ar gyngor annibynnol NICE.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Becky nad ydy hi wedi prosesu ei sefyllfa yn iawn eto

Mae Becky’n cael triniaeth cemotherapi ar hyn o bryd ar ôl cael ei diagnosis cyntaf ddwy flynedd yn ôl.

“‘Nes i gael cemo, imiwnotherapi, lumpectomi a radiotherapi,” eglurodd.

“Gorffen hynna Hydref flwyddyn diwetha’, wedyn mis Ebrill, mynd am mammogram ac ultrasound oherwydd doedd pethe’ dal ddim yn iawn.

“A mis Mehefin wedyn, boom, ‘da chi efo canser y fron eilradd.”

'Os oes siawns, pam ddim?'

Mae’n dweud ei bod yn teimlo’n “drist” nad yw menywod sy’n gymwys yng Nghymru yn gallu cael mynediad at gyffur Enhertu drwy’r gwasanaeth iechyd.

“Gobeithio bod ‘na brotestio mawr yn mynd mlaen,” dywedodd Becky.

“Ddylech chi ddim rhoi pris ar fywyd unrhyw un. Os ‘di o’n rhoi siawns i rywun fyw, pam ddim?”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Becky wedi cael sawl math o driniaeth, yn cynnwys cemotherapi, imiwnotherapi a radiotherapi

Ym mis Gorffennaf, penderfynodd NICE beidio ag argymell y cyffur, gan ddweud na fyddai’n gost-effeithiol, a galw ar gwmnïau fferyllol i gynnig pris gwell.

Eglurodd yr Athro Arwyn Tomos Jones o ysgol fferylliaeth Prifysgol Caerdydd fod y broses o gynhyrchu’r cyffur yn gostus.

“Ma’r rhain yn fathau eitha’ newydd o feddyginiaethau, sef meddyginiaethau biolegol,” dywedodd.

“Mae’n broses hir, mae’n broses ddrud, ond yn llawer iawn drytach gyda’r moleciwlau biolegol, i’w darganfod yn y lle cyntaf, i wneud yr arbrofion cynnar arnyn nhw, a wedyn i’w cynhyrchu nhw.”

Dywedodd elusen Breast Cancer Now eu bod wedi cyfarfod â NICE, ysgrifennydd iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth y DU, Wes Streeting, a chwmnïau fferyllol, gan alw arnyn nhw i ddod o hyd i ddatrysiad.

Dywedodd Matthew Jones, arweinydd polisi a materion cyhoeddus yr elusen yng Nghymru, bod y penderfyniad yn “dorcalonnus”.

“Ma’r penderyfniad wedi creu loteri côd post annheg lle mae’r trinaieth ond ar gael ar y GIG yn Yr Alban.

“Mae angen datrys y sefyllfa ‘ma ar frys. O safbwynt Llywodraeth Cymru, mae angen iddyn nhw sicrhau bod pob cefnogaeth yn cael ei rhoi i’r trafodaethau hanfodol yma.”

'Cost yn fwy na’r budd'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn dibynnu ar gyngor annibynnol NICE yng Nghymru i sicrhau bod cost y triniaethau sydd ar gael i gleifion fel mater o drefn yn cydbwyso â’u buddion.

“Fe wnaeth NICE ystyried a ddylai Enhertu fod ar gael fel mater o drefn ond mae wedi dod i’r casgliad bod y gost yn fwy na’r budd i gleifion a’r GIG.”

Dywedodd Helen Knight, cyfarwyddwr gwerthuso meddyginiaethau NICE, eu bod yn “siomedig iawn” o fethu ag argymell Enhertu i’w ddefnyddio gan y GIG.

"Ni wnaeth y cwmnïau gyflwyno pris newydd, felly does gennym ddim dewis ond cyhoeddi ein penderfyniad terfynol, sef i beidio ag argymell y feddyginiaeth i'r grŵp hwn o gleifion."

Dywedodd y cwmnïau fferyllol AstraZeneca a Daiichi Sankyo eu bod yn “siomedig ac yn anghytuno â phenderfyniad NICE” a’u bod “wedi ymrwymo i ddod o hyd i ffordd ymlaen i gleifion”.

"Rydym yn galw ar NICE i newid y ffordd y mae triniaethau'n cael eu hasesu ar gyfer cleifion yn Lloegr a Chymru i greu system sy'n galluogi mynediad cyfartal i gleifion ochr yn ochr â gwledydd eraill."

Pynciau cysylltiedig