'Ddim yn gwybod ble i droi' wedi diagnosis dementia
Mae yna alw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella cyfraddau diagnosis dementia yn sgil pryder mai yng Nghymru y mae cyfraddau isaf y DU.
Yn ôl Cymdeithas Alzheimer's Cymru, mae pobl yma yn aros ar gyfartaledd o dair blynedd a hanner am ddiagnosis ar ôl i symptomau ddechrau.
Fe gafodd Idwal Owens o Gaernarfon wybod fod ganddo ddementia bum mlynedd yn ôl, a hynny wedi cyfnod o amau mai math fasigwlar o glefyd Parkinson oedd arno.
Yn dilyn mwy o brofion, daeth cadarnhad ddwy flynedd yn ôl taw dementia fasgiwlar yw ei gyflwr, ond yn ôl ei wraig, Moira, doedden nhw "ddim yn gwybod lle i droi" wedyn.
"Mi gafodd ddiagnosis a finna’n gofyn: 'Beth sy’n digwydd rŵan?' 'O, mi rown ni lwyth o leaflets i chi, ond wedyn 'na fo, 'dach chi ar ben eich hun wedyn'. Dim byd i'ch helpu chi."
Ychwanegodd ei bod yn "bwysig iawn fod yna lwybrau effeithiol ar ôl cael diagnosis i fynd â chi at y gofal a triniaeth y byddwch ei angen".
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn rhoi £12m y flwyddyn i gefnogi cyflwyno cynllun gweithredu ar ddementia ar draws Cymru.