Dementia: Idwal 'ddim y dyn nes i briodi' 53 mlynedd yn ôl
- Cyhoeddwyd
Mae yna alw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella cyfraddau diagnosis dementia yn sgil pryder mai yng Nghymru y mae cyfraddau isaf y DU.
Yn ôl Cymdeithas Alzheimer's Cymru, mae pobl yma yn aros ar gyfartaledd o dair blynedd a hanner am ddiagnosis ar ôl i symptomau ddechrau.
Fe fydd Plaid Cymru yn codi'r mater yn Senedd Cymru ddydd Mercher, gan ddadlau y gallai diagnosis cynnar a gwell opsiynau triniaeth arbed "hyd at £45,000 y pen" i'r GIG "drwy ohirio mynediad i gartrefi gofal".
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn rhoi £12m y flwyddyn i gefnogi cyflwyno cynllun gweithredu ar ddementia ar draws Cymru.
- Cyhoeddwyd23 Medi
- Cyhoeddwyd24 Medi
- Cyhoeddwyd10 Hydref
Mae'r drafodaeth yn y siambr yn cael ei harwain gan lefarydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor.
Dywedodd wrth raglen Dros Frecwast bod disgwyl cynnydd yn nifer y bobl â dementia yn y dyfodol wrth i gyfraddau heneddio'r boblogaeth godi.
Mae'n ofni taw dim ond "tua hanner" y bobl â dementia sy'n cael diagnosis yng Nghymru.
Golyga hynny, dywedodd, "bod 18,000 o bobl sy'n byw yma ar hyn o bryd heb y diagnosis a felly heb y gefnogaeth angenrheidiol er mwyn helpu nhw i fyw eu bywyd mor llawn â phosib".
Gan gyfeirio at ffigyrau'r Gymdeithas Alzheimer's, dywedodd bod adroddiadau'r gorffennol wedi awgrymu bod cleifion dementia Cymraeg yn gorfod aros "hyd yn oed yn hirach - hyd ar dair mlynedd yn hirach am ddiagnosis".
"Mae 'na lawer o rwystrau i gael diagnosis yma yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig," dywedodd Matthew Hawkins o Gymdeithas Alzheimer's Cymru.
"Ym Mhowys, er enghraifft, mae’r raddfa diagnosis yn is na yma yng Nghaerdydd.
"Mae llawer yn ymwneud â stigma efallai o drial cael diagnosis gan eich GP, ac yna mynd ymlaen i gael memory assessment.
"Mae’n eithaf anodd gan eich bod angen mwyn trwy cymaint o gymalau i allu cael y diagnosis yna’n y lle cyntaf."
Fe gafodd Idwal Owens o Gaernarfon wybod fod ganddo ddementia bum mlynedd yn ôl, a hynny wedi cyfnod o amau mai math fasgiwlar o glefyd Parkinson oedd arno.
Yn dilyn mwy o brofion, daeth cadarnhad ddwy flynedd yn ôl taw dementia fasgiwlar yw ei gyflwr, ond yn ôl ei wraig, Moira, doedden nhw "ddim yn gwybod lle i droi" wedyn.
"Mi gafodd ddiagnosis a finna’n gofyn: 'Beth sy’n digwydd rŵan?' 'O, mi rown ni lwyth o leaflets i chi, ond wedyn 'na fo, 'dach chi ar ben eich hun wedyn'. Dim byd i'ch helpu chi."
A hithau'r aelod o grŵp gofalwyr, a bod mewn cyfarfodydd pwyllgor, dywed Moira bod pethau i weld yn gwella erbyn hyn.
"Ma' pobl pan ma'n nhw'n cael diagnosis yn cael help i dd'eud wrthyn nhw lle i fynd, pwy i alw, a ma'n nhw'n cael rhestr rŵan o lefydd neith ei helpu nhw."
'Mam â diagnosis - ond ddim Dad'
Mae sefyllfa rheini Rhian Chirgwin, o Fachynlleth, yn tanlinellu cymhlethdod y cyflwr.
"Mae Mam wedi cael diagnosis a dydi Dad ddim - mae o mewn cartre' a ma' hi'n byw adre," dywedodd wrth Dros Frecwast.
Gwaedlif ar yr ymennydd oedd man cychwyn taith ei mam at ddiagnosis, ond y gred oedd mai hwnnw oedd achos ei symptomau.
"Oedd ei cho' hi'n weddol... gweld petha' oedd Mam a d'eud petha' rhyfedd a cl'wed lleisia' yn hytrach na bod hi ddim yn 'nabod ni," meddai.
Arwyddion posib eraill o ddementia fasgiwlar oedd "y symud cam oedd arni ers blynyddoedd" a'r ffaith ei bod yn drwm ei chlyw.
"Os ydyn nhw'n d'eud bod nhw ddim isio mynd am brawf, sginnoch chi mo'r hawl i wthio nhw i fynd," meddai.
"Ond pan gaeth hi'r prawf, oedd yr arbenigwr yn gallu edrych ar y sgan yn yr ysbyty a gweld bod o arni ers blynyddoedd achos oedd o'n gweld y dirywiad [yn yr ymennydd]."
Mae Rhian yn cwestiynu pam nad yw pobl yn cael eu cyfeirio os oes amheuaeth o ddementia wrth gael triniaethau ysbyty eraill, fel sy'n digwydd pe bai clinigwr "'di ffeindio lwmp - 'sa nhw'n gyrru chi at arbenigwr cancr neu beth bynnag".
'Mae dementia mor frwnt'
Mae cael diagnosis wedi gwneud hi'n haws i Rhian ddeall cyflwr ei rhieni, ac effaith y naill ar y llall.
"O'dd Dad yn colli capasiti, y gallu, y fedr i 'neud penderfyniada'. A'th o i'r ysbyty fwy nag unwaith.
"O'ddan nhw'n rhoi hynna i lawr bod o'n ca'l rhyw breakdown bach achos bod o'm yn gallu delio efo Mam.
"O'dd Mam 'di mynd [i'r ysbyty gyda'r gwaedlif] yn ddynes hapus gynt ond oedd hi'n flin ofnadwy pan ddoth hi'n ôl...
"Mae dementia mor frwnt... ac efo'r ddau yn dirywio oedd o'n anodd iawn."
Pwrpas rhoi diagnosis, medd Matthew Hawkins o'r Gymdeithas Alzheimer's, yw sicrhau mynediad i'r cymorth anghenrheidiol, ond mae ymchwil yr elusen "yn dangos fod llai na 1% o'r bobl sydd wedi cael diagnosis yn difaru'r penderfyniad i wneud hynny" oherwydd y rhwystredigaethau sy'n codi.
Mae’n bwysig iawn, meddai, "fod yna lwybrau effeithiol ar ôl cael diagnosis i fynd â chi at y gofal a triniaeth y byddwch ei angen".
'Newid personoliaeth a ffordd o fyw'
Dywed Moira Owens bod ei gŵr yn "reit dda" ar hyn o bryd, ac yn elwa o gymryd rhan yng nghweithgareddau Dementia Actif Gwynedd.
"Trwy rheini ydw i wedi dod i wybod am bethau er'ill," meddai, "'Dan ni’n 'neud grŵp cerdd [ond] mae'r sefyllfa efo rhai o'r gofalwyr eraill yn ofnadwy.
"Os 'dach chi'n byw mewn lle anghysbell, does yna ddim gofal yno. Tydyn nhw cau dod yna. Ma' 'na lot o betha' eisiau cael ei ail-wneud."
Dydy pobl ddim yn sylweddoli, medd Moira, bod yna 103 o wahanol fathau o dementia.
Dydy Idwal, meddai, "ddim y dyn nes i briodi" 53 mlynedd yn ôl.
"'Di o ddim isho gwneud petha', mae o'n mynd yn flin. Mae ei bersonoliaeth o wedi newid. Mae o wedi newid ffordd o fyw."
Mae dementia, meddai Matthew Hawkins, "yn effeithio’n emosiynol ac yn ariannol ar y teulu, a’r system ehangach", ac yn ychwanegu at y pwysau ar wasanaethau iechyd.
"Dan ni'n gwybod bod un o bob chwech gwely ysbyty yn cael ei ddefnyddio gan rhywun gyda dementia.
"Mae pobl heb ddiagnosis dementia, ond sydd hefo dementia, yn fwy tebygol o fynd i A&E, ac mae’n cael effaith enfawr ar yr holl system.
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2023
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn darparu £12m y flwyddyn i gefnogi Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gyflwyno cynllun gweithredu ar ddementia.
Ychwanegodd llefarydd mai'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, fydd yn ymateb i'r ddadl ar lawr y Senedd, ac fe fydd "yn diweddaru aelodau ar y gwaith sy'n digwydd i gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia, gan gynnwys gwaith i wella cyfraddau diagnosis".