Y diwydiant cyhoeddi Cymraeg yn 'wynebu'r dibyn'

Mae “argyfwng ar y diwydiant cyhoeddi Cymraeg” o ganlyniad i doriadau ariannol yn peryglu dyfodol y diwydiant yn llwyr, yn ôl un o brif gyhoeddwyr y wlad.

Dywedodd Lefi Gruffudd, pennaeth golygyddol gwasg Y Lolfa, bod pryder am ragor o doriadau i ddod yn y maes.

Daw wrth i ffigyrau Cyngor Llyfrau Cymru awgrymu bod grantiau ar gyfer cyhoeddi yn Gymraeg wedi gostwng 40% mewn degawd, ar ôl ystyried effaith chwyddiant.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod pwysigrwydd economaidd a diwylliannol y sector, ond bod rhaid gwneud "penderfyniadau anodd" i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen fel iechyd ac addysg.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Gwener dywedodd Rhodri Glyn Thomas - cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru a fu'n aelod yn y Cynulliad rhwng 1999 a 2016 - fod y sefyllfa yn un "drychinebus".

"Mae’r diwydiant yn wynebu’r dibyn mewn gwirionedd," meddai.

"Mae’r gostyngiad yn y cymorth sy’n cael ei rhoi i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn arswydus."