'Peryg na fydd diwydiant cyhoeddi Cymraeg' yn sgil toriadau
- Cyhoeddwyd
Mae “argyfwng ar y diwydiant cyhoeddi Cymraeg” o ganlyniad i doriadau ariannol yn peryglu dyfodol y diwydiant yn llwyr, yn ôl un o brif gyhoeddwyr y wlad.
Dywedodd Lefi Gruffudd, pennaeth golygyddol gwasg Y Lolfa, bod pryder am ragor o doriadau i ddod yn y maes.
Daw wrth i ffigyrau Cyngor Llyfrau Cymru awgrymu bod grantiau ar gyfer cyhoeddi yn Gymraeg wedi gostwng 40% mewn degawd, ar ôl ystyried effaith chwyddiant.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod pwysigrwydd economaidd a diwylliannol y sector, ond bod rhaid gwneud "penderfyniadau anodd" i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen fel iechyd ac addysg.
'Trychinebus' i'r diwydiant
Dywedodd Mr Gruffudd bod cyhoeddwyr wedi eu "heffeithio gan flynyddoedd o dorri yn ogystal â thoriad eleni, sy'n golygu bod pob gwasg mewn lle gorbryderus, a hefyd byddwn i'n dweud ein bod yn bryderus a fydd toriad pellach yn dod".
“Heb i bethau newid ma' 'ne beryg na fydd diwydiant cyhoeddi Cymraeg."
Mewn erthygl yn y Western Mail yn ddiweddar, dywedodd Mr Gruffudd bod "storm berffaith" yn deillio o'r toriadau, lleihad mewn gwerthiant yn rhannol oherwydd nad oes gan ysgolion arian i brynu llyfrau, a llyfrgelloedd yn cau.
Mae'n amau a fydd cyhoeddi Cymraeg yn hyfyw yn y dyfodol, ac yn dweud y byddai rhagor o doriadau yn arwain at "oblygiadau trychinebus i ddiwydiant sydd eisoes ar ei liniau".
Dywedodd ei fod yn poeni am ddyfodol cwmni'r Lolfa, sy'n cyflogi 23 o bobl, gan ddweud bod cyhoeddwyr Cymraeg yn haeddu derbyn yr un diogelwch ariannol â mudiadau fel yr Urdd a'r Mentrau Iaith.
"Os yw'r patrwm yn parhau does dim unrhyw ffordd allen ni gynnal busnes ar sail y gwerthiant yn gostwng a'r grantiau yn lleihau," ychwanegodd ar Dros Frecwast.
Gostyngiad 40% mewn grantiau
Yn ôl ffigyrau Cyngor Llyfrau Cymru, roedd cyfanswm y grantiau Cymraeg yn 2013/14 yn £1,846,500.
Ar gyfer 2024/25, £1,509,133 ydy'r swm - sy'n cyfateb â gostyngiad o 40% ar ôl ystyried effeithiau chwyddiant ar gostau.
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2023
Mae'r Cyngor Llyfrau'n cefnogi saith prif gyhoeddwr Cymraeg, yn ogystal â phump o gyhoeddwyr Saesneg yng Nghymru, a nifer o gyhoeddwyr llai a chylchgronau.
Maen nhw'n dweud bod y diwydiant yn cynnal cannoedd o swyddi ledled Cymru, a bod y Cyngor Llyfrau ei hun yn noddi 29 o swyddi yn uniongyrchol gyda'r cyhoeddwyr.
Mae'r cyngor yn dweud bod nifer y llyfrau Cymraeg a gafodd eu cyhoeddi gan y prif gyhoeddwyr gyda chefnogaeth grantiau wedi gostwng 34% dros y cyfnod.
Yn ôl y ffigyrau mae'r grantiau marchnata wedi gweld toriad o dros 60% mewn termau real yn y ddwy iaith.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Gwener dywedodd Rhodri Glyn Thomas - cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru a fu'n aelod yn y Cynulliad rhwng 1999 a 2016 - fod y sefyllfa yn un "drychinebus".
"Mae’r diwydiant yn wynebu’r dibyn mewn gwirionedd," meddai.
"Mae’r gostyngiad yn y cymorth sy’n cael ei rhoi i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn arswydus.
"Fe ddylai cyhoeddi llyfrau i blant ac i ieuenctid yn eu harddegau fod yn rhan annatod o’r cynlluniau sydd gyda’r llywodraeth, medden nhw, i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg."
'Y cyfan am gwympo’n ddarnau'
Ychwanegodd fod "dim strategaeth ar gyfer cynnydd" o ran rôl y Cyngor Llyfrau a'r sector cyhoeddi er mwyn helpu i gyrraedd y targed hwnnw.
"Bydden i’n dadlau bod angen mwy o lyfrau i blant - plant ifanc yn enwedig.
"Mae angen deunydd diddorol i blant yn eu harddegau – rhain yn feysydd eithriadol o bwysig.
"Rhai o’r nofelau yn cael eu cyhoeddi i oedolion - does fawr neb yn eu darllen nhw.
"Heb i ni gael Cyngor Llyfrau yn ganolog i’r strategaeth yna mae’r cyfan yn mynd i gwympo’n ddarnau."
Dywedodd un o awduron mwyaf amlwg Cymru, Manon Steffan Ros, bod y diwydiant llyfrau yn "fywiog, yn ddifyr ac yn ffres" yng Nghymru.
Ond wrth siarad â BBC Cymru Fyw, dywedodd ei bod yn "poeni am yr effaith mae toriadau ariannol am gael ar y nifer a'r ystod o lyfrau y byddwn ni'n gallu cyhoeddi yn y dyfodol".
"Mae angen i ni allu cyhoeddi llyfrau sy'n risg, llyfrau does 'na neb yn siŵr iawn a ydyn nhw am werthu ai peidio, achos dyna’r llyfrau sy’n dod â ffresni i’n diwylliant ni."
Dywedodd fod "cyfrifoldeb arnom ni awduron a chyhoeddwyr i greu llyfrau mae pobl isio eu darllen".
'Gorfod gwneud penderfyniadau anodd'
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod pa mor bwysig yw'r sector cyhoeddi i'n heconomi, a'r cyfraniad hanfodol y mae'n ei wneud i fywyd ieithyddol a diwylliannol cyfoethog ein cenedl".
"Mae pwysau sylweddol ar ein holl gyllidebau, ac rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd i ddiogelu'r gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw, fel gwasanaethau iechyd a gofal ac ysgolion.
"Rydym yn parhau i gefnogi cyhoeddwyr Cymraeg, drwy Gyngor Llyfrau Cymru, i ymateb i’r heriau sy'n wynebu'r diwydiant a darganfod y ffyrdd gorau i sicrhau dyfodol tymor hir cyhoeddi yng Nghymru."