A yw Mistar Urdd am gyrraedd yr Eisteddfod?
A fyddwch chi yn teithio i Barc Margam yr wythnos hon ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr?
Os felly, mae modd i chi gyrraedd y maes mewn car neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae Parc Margam wedi ei leoli rhwng cyffordd 37 a 38 yr M4.
Mae'r Urdd yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd yr ŵyl.
Mae'r holl fanylion ar sut i gyrraedd y maes yma.