Eisteddfod yr Urdd: Sut mae cyrraedd y maes?

- Cyhoeddwyd
A fyddwch chi yn teithio i Barc Margam yr wythnos hon ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr?
Os felly, mae modd i chi gyrraedd y maes mewn car neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae Parc Margam wedi ei leoli rhwng cyffordd 37 a 38 yr M4.
Mae'r Urdd yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd yr ŵyl.
Sut i gyrraedd yn y car?
O'r gorllewin:
Dewch oddi ar yr M4 o gyffordd 38
Yng nghyfnewidfa Margam cymrwch yr allanfa cyntaf ar yr A48 tuag at Bort Talbot
Bydd arwyddion melyn yr Eisteddfod yn eich cyfeirio at y meysydd parcio o fewn Prif Fynedfa Margam
O'r dwyrain:
Dewch oddi ar yr M4 o gyffordd 37
Dilynwch allanfa A4229 i Borthcawl/Pîl
Yng nghyfnewidfa Pîl, cymrwch y trydydd allanfa ar yr A4229
Wrth y gylchfan cymrwch yr ail allanfa i ffordd Pîl/A48
Parhewch ar y ffordd hon nes i chi weld arwyddion melyn yr Eisteddfod a fydd yn eich cyfeirio at y meysydd parcio
Os yn defnyddio Sat Nav - defnyddiwch y cod post SA13 2TJ os yn dod o gyffordd 38.
Os yn dod oddi ar gyffordd 37, defnyddiwch y cod post SA13 2TG
Yn dod ar y trên?
Cymrwch y trên i orsaf Parcffordd Port Talbot
Bydd gwasanaeth bws wennol yn rhedeg o'r orsaf drenau yma i Faes yr Eisteddfod ac yn ôl yn ystod yr wythnos
Bydd y bws yn eich gollwng ym mhrif fynedfa'r Maes
Mae'r gwasanaeth am ddim i'r cyhoedd
Bydd y bysus gwennol yn mynd rhwng 06:30-21:56 o ddydd Llun i Iau ac yn mynd o 06:30-23:26 ddydd Gwener a Sadwrn
Bydd modd i chi ddilyn y cyffro o'r maes drwy'r wythnos ar ap ac ar wefan Cymru Fyw.