Beth yw'r termau Cymraeg newydd yng Ngeiriadur Rhydychen?
Iechyd da, ych a fi, a sglods - dyma rai o'r termau Cymraeg sydd wedi cael eu hychwanegu i'r fersiwn ddiweddaraf o Eiriadur Saesneg Rhydychen.
Mae'r geiriadur yn cynnwys dros 500,000 o eiriau a'n cael ei ddiweddaru pedair gwaith y flwyddyn.
Nawr yn eu plith mae 10 term y bydd siaradwyr Cymraeg yn gyfarwydd iawn gyda nhw.
Mae'r geiriau yn cael eu hychwanegu am fod cofnod o'u defnydd mewn "gwahanol ffynonellau" o ysgrifennu Saesneg, a bod hynny i'w weld dros "gyfnod rhesymol o amser".
Beth yw'r geiriau Cymraeg sydd wedi'u hychwanegu felly? Ein gohebydd Harriet Horgan sy'n egluro mwy.